大象传媒

Trafod dod ag arbrawf misol biniau du Conwy i ben

  • Cyhoeddwyd
Biniau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 10,000 o dai yn rhan o gynllun prawf casglu sbwriel cyffredinol bob pedair wythnos yn Sir Conwy

Fe fydd cynghorwyr Conwy yn trafod cael gwared ar gynllun prawf i gasglu gwastraff t欧 unwaith y mis yn ddiweddarach.

Fis diwethaf fe wnaeth cabinet y Cyngor gytuno i barhau 芒'r cynllun peilot.

Ond wnaethon nhw ddim penderfynu ei ehangu i'r sir gyfan.

Ddydd Iau bydd aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle yn trafod cais i roi diwedd ar y cynllun prawf.

Mae'r cynllun peilot, sy'n effeithio tua 10,000 o dai, wedi bod mewn bodolaeth ers 2016, ond yng ngweddill y sir mae biniau du yn cael eu casglu bob tair wythnos.

Mae tri aelod o'r gr诺p Llafur wedi cyflwyno cais i geisio atal y cynllun prawf yn gyfan gwbl gan ddweud bod yr arbrawf yn creu gwasanaeth dau ddosbarth yn Sir Conwy.