Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Miliwn o siaradwyr Cymraeg: Eich awgrymiadau chi
Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dyna ydy'r targed, ond beth yw eich argymhellion chi?
Aeth Elin Maher, ymgynghorydd iaith annibynnol o Gasnewydd, ati i wthio'r cwch i'r d诺r trwy lunio canllawiau ar ei thudalen Facebook. Mi wnaeth Cymru Fyw rannu rhai o'i hawgrymiadau gan ofyn am eich ymateb chi.
Dyma ddetholiad o'ch syniadau chi i geisio mynd i'r afael 芒 nod Llywodraeth Cymru:
Gwneud i ffwrdd a'r syniad o "Gymru Ddwyieithog"
Mae'n syniad hollol hurt. Mae'n bosib ei fod yn gwneud synnwyr mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn wan. Ond mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn iaith bob dydd dydy anelu at greu Gymru ddwyieithog ddim yn gwneud unrhyw synnwyr!
Nev Evans, Ynys M么n
Dysgu hanes Cymru
Rhaid dysgu hanes Cymru o safbwynt Cymru ym mhob ysgol er mwyn i'r plant werthfawrogi eu diwylliant. Yna, byddan nhw eisiau gwarchod eu hiaith heb i neb eu gorfodi i ddysgu Cymraeg.
Junko Salmon, Oklahoma, UDA
Cysoni safonau dysgu
Rhaid mynd ati i ledaenu/cysoni'r dulliau dysgu hynny yn ysgolion Cymru ac ymysg athrawon Cymraeg. Er enghraifft, beth am adeiladu ar ddulliau dysgu'r canolfannau trwytho iaith yn ardaloedd o Gymru sy'n llwyddo'n aml i wneud disgyblion di-Gymraeg i ddod yn fwy rhugl a hyderus yn yr iaith dros gyfnod byr. Mae'n bwysig rhannu unrhyw arfer da.
Noir Jones, Abertawe
Cyflogi staff dwyieithog
Mae angen gorfodi cyrff cyhoeddus yng Nghymru, cynghorau ayyb, i gyflogi pobl ddwyieithog os ydyn nhw yn delio 芒'r cyhoedd. Mae angen dechrau gwneud hynny yn yr ardaloedd mwyaf Cymreig yn syth!!! Byddai yna werth dysgu'r Gymraeg i gael swydd wedyn fel yr oedd hi yn yr 80au.
Arfon Wyn, Ynys M么n
Cefnogaeth gyson i athrawon
Mae angen cefnogaeth ac hyfforddiant cyson yn y Gymraeg i athrawon cynradd ac uwchradd er mwyn magu hyder wrth ddysgu ac addysgu'r iaith. Mae angen sicrhau bod amser digonol yn yr amserlen fel bod gwir gyfle i athrawon cymwys addysgu'r iaith i ddisgyblion ail iaith.
Rhiannon Packer, Caerdydd
Dilynwch yr is-deitlau
Annog dysgwyr i gryfhau eu geirfa trwy wylio omnibws Pobol y Cwm gydag is-deitlau Saesneg bob pnawn Sul am 17:30 ar S4C.
Hedydd Owen, Caerdydd
Cymraeg yn hanfodol i'r Cyfnod Sylfaen
Rhaid sicrhau bod pob ysgol gynradd yn penodi siaradwyr Cymraeg er mwyn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen. Mae angen o leiaf gradd B mewn TGAU Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ar bob darpar athro/athrawes. Mae angen ychwanegu'r Gymraeg at y cymwysterau yma.
Gareth Williams, Yr Wyddgrug
Hefyd o ddiddordeb...