大象传媒

Crwban ddaeth i'r lan yng Nghymru wedi marw yn Gran Canaria

  • Cyhoeddwyd
'Menai' y crwban yn S诺 M么rFfynhonnell y llun, S诺 M么r M么n

Mae crwban prin gafodd ei achub o'r lan ar Ynys M么n yn 2016 wedi marw yn Gran Canaria.

Dywedodd staff o S诺 M么r M么n bod y newyddion am farwolaeth Menai, y crwban pendew Olive Ridley, yn "dorcalonnus".

Cafodd yr anifail ei ddarganfod ar draeth Tan-Y-Feol ger mynedfa'r ganolfan a'i henwi'n Menai gan y staff.

Ar y pryd dywedodd arbenigwyr ei fod yn anyghoel bod y crwban wedi llwyddo i gyrraedd y DU yn fyw, gan eu bod yn byw fel arfer mewn moroedd cynnes a throfannol ger Mecsico a de'r UDA.

'Ofni'r gwaethaf'

Haf y llynedd, cafodd Menai ei hedfan i Gran Canaria yn y gobaith y byddai'n gwella'n gynt mewn tywydd cynhesach, ac yna ei rhyddhau i'r m么r eto.

Ond ym mis Rhagfyr daeth y newyddion fod ei hiechyd wedi dirywio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y crwban ei ddarganfod ar draeth ar Ynys M么n yn Nhachwedd 2016

Dywedodd Frankie Hobro, Perchennog S诺 Mor M么n: "Pan wnaethom glywed fod Menai yn rhy s芒l i gael ei symud ddechrau'r mis roedd y staff yn ofni'r gwaethaf.

"Mae'n gwbl dorcalonnus, yr holl waith caled a haelioni'r cyhoedd, mae'n bechod na wnaeth oroesi er mwyn cael ei rhyddhau yn 么l i'r gwyllt."

Ychwanegodd eu bod wedi cael sicrwydd y bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnnal er mwyn cael gwybod pam wnaeth ei hiechyd ddirywio cymaint ar 么l symud i Gran Canaria.