大象传媒

Cais i adeiladu sied ar gyfer 32,000 o ieir wedi'i wrthod

  • Cyhoeddwyd
Glanmyddfi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd y cais i adeiladu uned ar gyfer 32,000 o ieir ei wrthod

Mae cynlluniau ar gyfer adeiladu sied ar gyfer 32,000 ieir yn Sir Gaerfyrddin wedi'i wrthod gan y cyngor sir.

Roedd cynlluniau wedi'u cyflwyno ar gyfer yr uned ym Mhentrefelin ger Llandeilo, ond yn dilyn gwrthwynebiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fe wrthodwyd y cais.

Roedd CNC yn pryderu am yr effaith posib y byddai nwy amonia a nitrogen yn ei gael ar safle Yst芒d Parc Dinefwr, sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Roedd y cyngor cymuned lleol yn Llangathen hefyd yn gwrthwynebu'r cais ar sail pryderon diogelwch ffyrdd.

'Risg uchel'

Ffermwr lleol, Terry Davies, oedd wedi cyflwyno'r cais gwreiddiol i gynhyrchu wyau maes ar y tir yng Nglanmyddyfi.

Mae adroddiad sy'n esbonio'r gwrthwynebiad yn dweud mai effaith amgylcheddol sydd y tu 么l i benderfyniad y cyngor.

Dywedodd: "Gan fod Stad Dinefwr yn cael ei adnabod fel yr ail safle pwysicaf yng Nghymru a Lloegr o ran y gennau (lichen) prin, rydym yn ystyried y risg yn uchel i'r nodweddion arbennig ar sydd ar y safle."

Roedd y cyngor cymuned lleol - Cyngor Cymuned Llangathen - hefyd wedi gwrthwynebu'r datblygiad am resymau diogelwch y ffyrdd.