大象传媒

Y ffydd sy'n rhoi cryfder i Nigel Owens

  • Cyhoeddwyd
nigel owens

Er nad yw'n mynd i'r capel yn rheolaidd erbyn hyn mae ei ffydd grefyddol yn dal i fod yn rhan bwysig o'i fywyd meddai'r dyfarnwr rygbi byd-enwog, Nigel Owens, sy'n un o gyflwynwyr y gyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C.

"Yn tyfu lan roedd yr Ysgol Sul a'r Capel yn ddylanwad mawr arnaf i fel plentyn ac wedi rhoi lot o'r egwyddorion sydd gyda fi nawr.

"O'n i'n ffyddlon yn y capel a'r ysgol nes o'n i'n rhyw 14 oed.

"Fe wnes i bennu mynd, dim oherwydd nad o'n i'n credu, ond jyst oherwydd amser, tyfu lan, ffrindiau ddim yn mynd rhagor a phethau eraill yn mynd yn y ffordd.

"Felly dwi'n dal yn credu a dal 芒 ffydd ond ddim yn mynd i'r capel ar hyn o bryd.

Ddim yn credu popeth yn y Beibl

"Ond mae ffydd yn dal i chwarae rhan bwysig - ddim lle mae'n cymryd drosodd fy mywyd i a dyw e ddim yn fy atal i rhag gwneud pethe - dyw'n ffydd i ddim yn ffydd cul o gwbl. Dwi'n dal i gredu ond dydw i ddim yn credu ym mhopeth mae'r Beibl yn ei ddweud.

"Pe baen i'n credu ym mhopeth mae'r Beibl yn ei ddweud fydden i'n methu bod yn pwy ydw i heddiw.

"Rwy'n credu oedd yna berson fel Iesu Grist a wi'n credu yn rhai o'r pethau da wnaeth a ddywedodd e ond dydw i ddim yn credu bod popeth mae'r Beibl yn ei ddweud mae wedi ei wneud a'i ddweud yn hollol wir. Rwy'n credu bod pethe wedi eu dodi yn y stori fel mae'r canrifoedd yn mynd heibio."

Mae Nigel yn dweud ei fod yn gwrando ar yr emyn Mor Fawr Wyt Ti cyn bob g锚m fawr mae'n ei dyfarnu.

"I fi mae'n emyn mor fawr 芒 phopeth ynddo - mae'r geiriau a'r d么n mor gryf a llais John Eifion yn ei chanu hi - mae'n emyn complete.

"Wi'n gwrando arni yn aml iawn a chyn bob g锚m rwy'n dyfarnu.

"Mae'n gwneud i fi ymlacio, paratoi a chanolbwyntio ar gyfer y g锚m wrth feddwl am y geiriau a beth maen nhw'n eu golygu ac mae'n dod n么l at un o'r egwyddorion mwyaf pwysig - gonestrwydd a gwneud eich gorau ar y cae."

Oherwydd pwysau ei waith fel dyfarnwr rygbi "r么l fach" sydd ganddo yn y gyfres newydd, meddai, ond bydd yn cyflwyno ambell i eitem o bryd i'w gilydd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechrau Canu Dechrau Canmol: Nigel gyda'i gyd-gyflwynwyr

Dileu stereoteip

Yn 么l Nigel wnaeth neb ofyn iddo a oedd yn grefyddol cyn iddo gytuno i gyflwyno DCDC ond byddai'n anodd i rywun heb ffydd gyflwyno'r rhaglen, meddai.

"Os 'dych chi'n cyflwyno rhywbeth neu'n gwneud unrhyw beth mae'n rhaid bod chi'n mwynhau ac yn credu yn beth rydych chi'n ei wneud a mae hynny'n wir mewn popeth mewn bywyd.

"Os na fydde ffydd 'da fi, fi ddim yn credu bydden ni yn cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol achos mae'n rhaid i chi gredu yn beth y'ch chi'n ei wneud."

Mae'n gobeithio y bydd ei ymddangosiad ar y rhaglen yn help i ddileu stereoteip am y math o bobl sy'n dilyn crefydd ac yn help i bontio rhwng y byd chwaraeon a'r byd crefydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r emyn Mor Fawr Wyt Ti wedi bod yn gymorth i Nigel wrth ddyfarnu ar hyd a lled y byd

"Mae'n bwysig dangos bod lot ohonon ni ddim yn mynd i'r capel rhagor ond yn dal i gredu, dal 芒 ffydd, dal i wedd茂o ond yn ei wneud e yn ein ffordd eich hunain gartref neu o bryd i'w gilydd.

"Er mod i'n teimlo bod capel yn rhan bwysig o grefydd, ac o'n bywydau, fi'n credu ei bod hefyd yn bwysig, er mwyn symud ymlaen a chadw pobl i gredu yn y ffydd, i ddangos i bobl bod dim rhaid bod chi'n mynd i'r capel i ddangos bod chi'n credu mewn duw neu Iesu Grist, mae pawb yn credu yn ei wahanol ffordd ac yn gwedd茂o yn ei wahanol ffordd.

"Efallai fod pobl yn meddwl os y'ch chi'n gwneud rhywbeth arall mewn bywyd, fel bod yn chwaraewr rygbi neu b锚l-droed, bod chi ddim yn credu.

"Mae pobl yn meddwl fod yna stereoteip i bobl sy'n mynd i'r capel ond rwy'n gobeithio bydd y rhaglen yn dangos nad oes yna ddim stereoteip o gwbl i bobl sy'n credu mewn gwahanol ffyrdd a bod pawb yn gallu cael y cryfder yna o'i ffydd pwy bynnag ydych chi."

Dechrau Canu Dechrau Canmol, S4C, Nos Sul, 19:30