大象传媒

Hywel Dda yn rhoi ystyriaeth i gynlluniau cau ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Glangwili Hospital
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna bedwar ysbyty cyffredinol yn ardal Hywel Dda - Glangwili, Tywysog Philip, Llwynhelyg a Bronglais

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol ysbytai'r ardal gyda'r opsiynau dan ystyriaeth yn golygu "newid sylweddol" i'r drefn bresennol.

Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd yn trafod naw o opsiynau, gyda'r bwriad o greu rhestr fer ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn.

Mae rhai o'r opsiynau yn y ddogfen ddaeth i law 大象传媒 Cymru yn trafod cau neu symud gwasanaethau o ysbytai Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Yn 么l y gwahanol opsiynau sy'n cael eu rhestru, does yr un yn s么n am newid statws Ysbyty Bronglais, Aberystwyth fel Ysbyty Cyffredinol.

Mae un opsiwn yn cynnwys cau Glangwili, Caerfyrddin a Tywysog Philip gan godi ysbyty newydd sbon.

Y s么n yw y byddai'r ysbyty yna o faint sylweddol, nid yn annhebyg i Ysbyty Treforys.

Dyw'r ddogfen drafod ddim yn s么n am leoliad yr ysbyty newydd.

Yn y gorffennol mae'r Bwrdd Iechyd wedi ystyried safle yn Hendy-gwyn ar gyfer cynlluniau o'r fath.

Byddai opsiynau eraill yn gweld gwasanaethau yn cael eu hadleoli.

Yn 么l llefarydd ar ran y bwrdd iechyd fe fydd y newidiadau yn golygu fod pwyslais yn cael ei roi ar sicrhau fod gofal yn cael i roi yn y gymuned.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai pump o'r opsiynau dan ystyriaeth yn golygu cau Llwynhelyg

Mae'r naw opsiwn yn cynnwys:

  1. Llwynhelyg i gau, ac yn ei le 4 canolfan cymunedol. Glangwili yn newid i fod yn ysbyty ar gyfer gofal wedi ei gynllunio,

  2. Glangwili yn cau, ac yn ei le 4 canolfan gymunedol. Gofal wedi ei gynllunio yn Llwynhelyg a Tywysog Philip.

  3. Llwynhelyg,Glangwili a Tywysog Philip yn cau. Saith canolfan gymunedol. Codi ysbyty newydd o faint sylweddol.

  4. Glangwili - gofal brys; Llwynhelyg - gofal wedi ei gynllunio; Tywysog Philip - gofal adfer; 7 canolfan gymunedol newydd

  5. Llwynhelyg - gofal brys; Glangwili - gofal wedi ei gynllunio.

  6. Llwynhelyg a Tywysog Philip yn cau, codi saith canolfan gymunedol. Glangwili - achosion brys.

  7. Glangwili a Tywysog Philip yn cau, codi saith canolfan gymunedol. Llwynhelyg - achosion brys.

  8. Llwynhelyg, Glangwili a Tywysog Philip yn cau, codi saith canolfan gymunedol, codi canolfan i fod yn gyfrifol am achosion brys a gofal wedi ei gynllunio.

  9. Llwynhelyg a Glangwili yn cau - dwy ganolfan gymunedol yn eu lle. Tywysog Philip i aros fel canolfan ar gyfer triniaeth aciwt a man anafiadau. Canolfan newydd yn gyfrifol am achosion brys a gofal wedi ei gynllunio.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gwasanaethu 384,000 o bobl, yn wynebu dod o hyd i 拢200m yn ychwanegol dros gyfnod o bum mlynedd pe na bai newid i'r drefn bresennol.

Dywedodd y cyfarwyddwr meddygol Dr Phil Kloer: "Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i'r gwasanaeth iechyd a'r gymuned weithio gyda'i gilydd i gynllunio NHS sy'n addas ar gyfer ein cenhedlaeth ni, a thu hwnt.

"Mae yn cael ei gydnabod ers peth amser yn y DU fod ein gwasanaethau iechyd yn wynebu her o'r fath na welwyd o'r blaen ac mae angen newid sylweddol."