大象传媒

Awtistiaeth: Rhai'n aros dwy flynedd er targed chwe mis

  • Cyhoeddwyd
Ethan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe benderfynodd teulu Ethan dalu iddo gael asesiadau preifat er mwyn cael diagnosis

Mae rhai plant yng Nghymru yn disgwyl am ddwy flynedd ar gyfer asesiad awtistiaeth ar gyfartaledd, a hynny er targed chwe mis Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal, mae ymchwil rhaglen Wales Live wedi datgelu bod problemau staffio'n effeithio ar amseroedd aros, gyda rhai teuluoedd yn dweud ei fod yn cael effaith ddinistriol.

Daw wrth i gorff sy'n cynrychioli'r gweithwyr sydd ynghlwm 芒'r asesiadau ddweud bod angen brys am "weithlu sydd 芒'r sgiliau" sydd wedi ei ariannu'n dda.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi cynllun "uchelgeisiol" i "wella cefnogaeth i bobl ag awtistiaeth a'u rhieni a gofalwyr".

Angen asesiad cyflym

Mae Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg yn poeni am yr oedi mawr mewn diagnosis, a'r amrywiaeth mewn cefnogaeth o ardal i ardal yng Nghymru.

Hyfforddi seicolegwyr addysg ym Mhrifysgol Caerdydd mae Andrea Higgins, sydd hefyd yn aelod o'r gymdeithas.

Dywedodd: "Mae'n annerbyniol bod rhiant yn gorfod aros mwy na chwe mis yn fy marn i. Os yw plentyn angen asesiad yna maen nhw angen hynny'n reit gyflym.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Andrea Higgins bod angen asesiadau awtistiaeth yn gyflym neu mae'n bosib i blant ddioddef

"Mae ymddygiad y plant - ac ymddygiad heriol - yn gwreiddio'n ddyfnach yr hiraf mae'n parhau, ac mae'n fwy anodd i ni weithio'n llwyddiannus gyda phlant.

"Maen nhw'n mynd yn fwy gwrthwynebol i ymyrraeth a chefnogaeth."

Ychwanegodd bod cwymp yn nifer y seicloegwyr addysg yng Nghymru yn ddiweddar ac y byddai "buddsoddi yn y gweithlu yn gwneud gwahaniaeth".

'Dwi ddim yn gwybod sut i'w helpu'

Cafodd mab Clare Norton o Aberdaugleddau, Ethan, ei gyfeirio ar gyfer asesiad awtistiaeth yn 2012 pan yn bedair oed.

Ond ar 么l pum mlynedd, fe dalodd hi tua 拢2,000 ar gyfer asesiad preifat, a chafodd Ethan ddiagnosis o pathological demand avoidance.

Mae'n golygu bod Ethan yn gorfod bod mewn rheolaeth, ac mae'n pryderu os ddim. Ond bu'n rhaid i Clare ymladd i'r cyngor a'r bwrdd iechyd dderbyn y diagnosis, gan nad yw'n cael ei gydnabod ar draws y byd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pan mae mab Clare Norton yn cael diwrnod gwael mae ei ymddygiad yn gallu newid yn gyflym

Dywedodd: "Ar ddiwrnod da mae'n ymateb yn dda. Ond ar ddiwrnod gwael fe allwn ni fynd o fod yn hapus i ymosodol, yn ymosod arnom ni o fewn munudau.

"Cyn i chi wybod mae'n gallu bod ar eich pen chi, yn eich pwnio chi."

Dywedodd mai'r diwrnodau heriol yw pan mae Ethan yn drist: "Pan mae'n eistedd ac yn crio a ddim eisiau bod yn awtistig, dyna'r diwrnodau mae'n anodd.

"Dwi ddim yn gwybod sut i'w helpu. Fe fyddai'n well gen i petai e'n ymosodol nag yn drist ac yn crio."

Yn 么l Clare, mae hi wedi gwario tua 拢6,000 ar asesiadau gwahanol ar gyfer Ethan, yn ogystal 芒 ffioedd cyfreithiol er mwyn cydnabod ei ddiagnosis.

"Roedden ni'n cael lot o stigma... am dalu'n breifat. Ond doedden ni erioed eisiau iddo gael label. Mae'n ymwneud 芒 dod i wybod beth sy'n bod gyda'n mab er mwyn ei helpu."

Yn 么l cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae'r amser aros hiraf yng Nghymru yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, lle mae'n 755 diwrnod ar gyfartaledd - dros dwy flynedd.

Roedd yr amser aros isaf ym Mhowys, lle mae'r amser cyfartalog yn 93 diwrnod neu tua 13 wythnos.

Yn y gogledd, mae'r amseroedd aros yn amrywio rhwng ardaloedd, gyda cleifion yng Ngonwy a Sir Ddinbych yn aros am 39 wythnos, ond cleifion Wrecsam a Sir y Fflint yn aros 23 wythnos.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud bod llefydd gwag o fewn y timau niwroddatblygiadol wedi cael effaith ar eu gallu i ddarparu'r gwasanaeth.

'Saith mlynedd o hunllef'

Fe anfonodd Wales Live holiadur i rieni sydd 芒 phlant ar y sbectrwm awtistiaeth, a daeth 200 o ymatebion i law.

Dywedodd un bod ei merch wedi dioddef o iselder ac wedi meddwl am ladd ei hun erbyn cael diagnosis.

Soniodd un arall am "saith mlynedd o hunllef yn ceisio cael help a diagnosis".

Targed Llywodraeth Cymru yw 26 wythnos o'r pwynt pan maen nhw'n cael eu cyfeirio at arbenigwr i'r diagnosis.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhwystredigaeth oedd y brif thema gan rieni yn yr holiadur gafodd ei lunio gan Wales Live

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi cynllun "uchelgeisiol" i "wella cefnogaeth i bobl ag awtistiaeth a'u rhieni a gofalwyr".

Ychwanegodd y llefarydd y byddai Gwasanaeth Awstistiaeth Integredig newydd yn "mynd i'r afael 芒 bylchau yn y gwasanaeth presennol" wrth agor dros Gymru yn 2018.

"Byddwn yn atgyfnerthu'r ymrwymiadau yma drwy gyhoeddi canllawiau statudol ar awtistiaeth yn ystod tymor y Cynulliad, fydd yn atgyfnerthu'r gofynion ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gynllunio a chynnig gwasanaethau awtistiaeth effeithiol."

Bydd rhagor ar raglen Wales Live ar 大象传媒1 nos Fercher am 22:30.