大象传媒

Ymweld 芒 lleoedd Cymreig cyfarwydd ar drenau Philadelphia...

  • Cyhoeddwyd
xx
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pa mor bell ydy hi i Lyn Tegid?

Mae'r tr锚n nesa' i Bala yn gadael Philadelphia am... Pardwn? Na, dydyn ni ddim wedi drysu!

Mae olion y Gymraeg dal i fod yn amlwg iawn mewn sawl rhan o dalaith Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau. Mae'r map isod o rwydwaith rheilffyrdd Philadelphia yn dangos yn glir rhai o'r dylanwadau Cymreig. Gallwch deithio o orsaf Gogledd Cymru, heibio i Ddyffryn Gwynedd ar eich ffordd i ganol y ddinas.

O'r gorllewin, gallwch ddal y tr锚n yn Bryn Mawr er mwyn cyrraedd Arberth. Fe welwch ambell i enghraifft arall o leoedd Cymreig eu naws hefyd.

Ffynhonnell y llun, Bc

Y don Gymreig gyntaf

Crynwyr o Gymru oedd y cyntaf i ymsefydlu yn Pennsylvannia yn y 17eg ganrif. Erbyn 1700, Cymry oedd yn cynrychioli traean o'r 20,000 o bobl oedd yn byw yn ardal Philadelphia. Mae nifer fawr o'r enwau Cymreig yn deillio yn 么l i'r cyfnod yma.

Cafodd ardal Bryn Mawr, er enghraifft, ei henwi gan Rowland Ellis, Crynwr o Fryn Mawr, Dolgellau. Yn 1686 fe ffodd i America oherwydd ei fod yn cael ei erlid am ei ddaliadau crefyddol. Prynodd 800 erw o dir gan William Penn, sylfaenydd trefedigaeth Pennsylvania. Adeiladodd blasty yno a'i enwi yn Bryn Mawr, ar 么l ei fferm yn Sir Feirionnydd.

Stori ddigon tebyg sydd tu 么l i enwau Cymreig eraill y dalaith. Mae dylanwad y Crynwyr wnaeth ffoi o Gymru yn parhau hyd heddiw, a daeth ton newydd o fewnfuduwyr o Gymry yno yn y 19eg ganrif. Daeth y genhedlaeth newydd o Gymry yno i chwilio am waith yn y pyllau glo oedd yn dechrau sefydlu yng ngorllewin a gogledd ddwyrain y dalaith.

Ffynhonnell y llun, Les Barker
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid ar chwarae plant y cafodd cymunedau Cymreig Pennsylvania eu sefydlu...

Mae 'na amcangyfri' bod tua 200,000 o bobl o dras Gymreig yn byw yn nhalaith Pennsylvania heddiw. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn byw yn yr ardaloedd glofaol. Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, prin y mae'r iaith Gymraeg i'w chlywed ymhlith dinasyddion y dalaith erbyn hyn. Ond mae 'na gymdeithas Gymraeg gref yn Philadelphia. Mae ei phencadlys yn... St David's.

Byd bach!