大象传媒

Y Ceidwadwyr yn cwestiynu gwybodaeth ymchwiliad Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant visiting a regeneration project in PontypriddFfynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw bedwar diwrnod wedi iddo golli ei swydd yn y cabinet

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gwybod a oedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi rhoi'r awdurdod i unrhyw un i gyhoeddi'r newyddion bod yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, wedi colli ei le yn y cabinet - cyn dweud wrth y diweddar weinidog ei hun.

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach cafodd Mr Sargeant ei ddarganfod yn farw ar 么l honiadau am ei ymddygiad tuag at fenywod.

Mae ymchwiliad wedi dod i'r casgliad "nad oedd gwybodaeth wedi ei rannu'n answyddogol o flaen llaw" am yr ad-drefnu cabinet ym mis Tachwedd.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am gyhoeddi yr adroddiad ar yr ymchwiliad yn llawn.

'Mwy o ddyfalu'

Mae'r ymchwiliad i'r wybodaeth a ryddhawyd yn un o dri ymchwiliad sydd wedi cael ei orchymyn yn dilyn marwolaeth AC Alyn a Dyfrdwy.

Roedd y cyn-weinidog Leighton Andrews wedi dweud ei fod e'n credu bod eraill yn gwybod am sacio Carl Sargeant cyn iddo ddigwydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Leighton Andrews ei fod yn credu bod gwybodaeth wedi ei ollwng

Ddydd Iau nad oedd ymchwiliad ar wah芒n wedi canfod unrhyw dystiolaeth bod manylion ad-drefnu'r cabinet - pan gollodd Mr Sargeant ei swydd fel Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant - wedi eu datgelu o flaen llaw.

Yn 么l y Ceidwadwyr mae'r datganiad "yn gwahodd hyd yn oed mwy o ddyfalu bod rhywun o swyddfa'r Prif Weinidog wedi awdurdodi gwybodaeth i gael ei ollwng am ad-drefnu'r cabinet".

'Bodloni pryderon'

Mae Ceidwadwyr Cymru yn dweud bod eu harweinydd Andrew RT Davies wedi galw am ofyn cwestiwn brys i'r Prif Weinidog Carwyn Jones yngl欧n a "wnaeth e, neu a wnaeth rhywun ar ei ran, awdurdodi rhoi manylion am ad-drefnu y Cabinet cyn Tachwedd 3ydd".

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Er mwyn bodloni unrhyw bryderon sy'n parhau, dylai'r Ysgrifennydd Parhaol gyhoeddi'r adroddiad ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sy'n cefnogi'r casgliadau, fel bod Aelodau Cynulliad o bob plaid yn gallu penderfynu a oes yna achos.

"Petai yna awdurdod wedi cael ei roi i ollwng gwybodaeth rhaid i ni ddeall gan bwy a pham. Ry'n nawr wedi cyflwyno cwestiwn brys ar y mater."

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddynt ddim i'w ychwanegu at ddatganiad yr Ysgrifennydd Parhaol ddydd Iau,

Ond fe gyfeiriont at ddatganiad a gafodd ei wneud gan y Llywodraeth wythnos ddiwethaf a oedd yn dweud: "Fe wnaeth y prif weinidog ofyn i'r ysgrifennydd parhaol ymchwilio a wnaeth manylion am ad-drefnu mis Tachwedd gael eu gollwng.

"Byddai'n gwbl anaddas datgelu gwybodaeth sy'n cynnwys datganiadau cyfrinachol gan unigolion cysylltiedig 芒'r ymchwiliad."

Yn y cyfamser, bydd Paul Bowen QC yn cadeirio ymchwiliad i'r modd y gwnaeth Mr Jones ddelio a sacio Mr Sargeant a bydd yr erlynydd arbennig o Iwerddon, James Hamilton, yn ystyried honiadau bod y prif weinidog wedi camarwain y cynulliad tra'n ateb cwestiynau am honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru.