大象传媒

'Angen darparu d诺r yfed mewn llefydd cyhoeddus'

  • Cyhoeddwyd
ffynnon ddwrFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'n ymddangos fod busnesau bach yng Nghymru yn dwys谩u eu hymdrechion i ostwng gwastraff plastig a mae rhai yn credu bod yr ymdrechion yn hwb i'w busnes.

Mae m芒n-werthwyr yn dweud fod yna newid wedi bod mewn agweddau a bod yna fwy o ymdrechion bellach i sicrhau bod mwy o blastig yn cael ei ailgylchu.

Un awgrym yw y dylai mwy o fannau cyhoeddus ddarparu d诺r yfed i lenwi poteli fel ffordd o leihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried nifer o opsiynau yngl欧n a chael d诺r yfed mewn llefydd cyhoeddus.

Newid arferion

Dywedodd un gwerthwr ffrwythau a llysiau o'r Bont-faen wrth y 大象传媒 ei fod yn gwerthu ei gynnyrch yn rhydd a bod pobl yn sylwi ar hynny.

Yn 么l perchnogion un siop cynnyrch llaeth yng Nghaerdydd, maen nhw wedi sylwi ar gynnydd yn nifer y bobl sy'n gofyn am gael eu llaeth mewn poteli gwydr.

Ychwanegodd un perchennog siop flodau ym Mhort Talbot ei bod hi bellach yn pacio'r blodau mewn papur brown a bod pobl yn eitha' hoffi'r "olwg naturiol".

Ar hyn o bryd Cymru, ar gyfartaledd, yw'r wlad sy'n ailgylchu y mwyaf o ddeunydd yn y DU ac mae codi 5c am fag wedi helpu at hynny.

Ond mae ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy.

Mae 725,000 potel blastig yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob dydd ac mae Ailgylchu dros Gymru yn amcangyfrif mai dim ond 50% o'r rhain sy'n cael eu hailgylchu. Mae'r gweddill naill ai'n sbwriel neu'n llenwi safle tirlenwi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 725,000 potel blastig yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob dydd ac amcangyfrifir mai dim ond 50% ohonynt y gellir eu hailgylchu

Yn 么l y Gymdeithas Cadwraeth Forol mae galw am system gwaredu poteli yng Nghymru ac mae'n galw ar y llywodraeth i fwrw ymlaen 芒'r cynllun.

O dan cynllun o'r fath byddai cwsmeriaid yn talu ychydig yn fwy wrth brynu un potel o ddiod ond bydden nhw'n cael yr arian yn 么l wrth fynd 芒'r botel wag yn 么l i'r siop.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn cynnal astudiaeth i gynllun o'r fath ac y bydd adroddiad ar yr astudiaeth yn cael ei gyhoeddi eleni.

'Angen defnyddio ffynhonnau cyhoeddus'

Yn 么l Gill Bell o'r Gymdeithas Cadwraeth Forol dylai Llywodraeth Cymru annog pobl i ddefnyddio ffynhonnau cyhoeddus er mwyn atal gwastraff.

"Mae angen annog gwsanaethau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai i gael llefydd lle mae modd llenwi poteli 芒 d诺r."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn ystyried nifer o opsiynau yngl欧n a chael d诺r yfed mewn llefydd cyhoeddus.

Erbyn 2021 mae disgwyl y bydd siopau, caffis a busnesau mewn trefi mawr yn Lloegr yn darparu mannau ail-lenwi d诺r.

Ar hyn o bryd mae D诺r Cymru yn ystyried a fyddai cynllun o'r fath yn gallu gweithio yng Nghymru.

Mae'r cwmni eisoes yn darparu gwasanaeth d诺r yfed mewn nifer o ddigwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Yng Nghaerdydd mae'r cyngor yn ystyried y posiblrwydd o ailgyflwyno ffynhonnau mewn rhannau o'r ddinas.

Yn y cyfamser mae busnesau bach hefyd yn parhau i wneud newidiadau er mwyn gostwng effaith niweidiol plastig.