大象传媒

Angen 'mwy o weledigaeth' i gynnal mentrau technoleg iaith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Delyth Prys eisiau mwy o grantiau tymor hir i brosiectau technoleg iaith

Mae angen mwy o "weledigaeth tymor hir" i gynnal prosiectau technoleg iaith, yn 么l pennaeth uned arbenigol ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd Delyth Prys yn siarad wrth i Weinidog y Gymraeg ymweld ag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yr wythnos hon.

Mae'r uned wedi cael grant o 拢20,000 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu prosiect o'r enw Lleisiwr, sy'n medru ail-greu llais yn synthetig i helpu pobl allai golli'r gallu i siarad - ond mae'r fenter yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth.

Dywedodd y gweinidog, Eluned Morgan AC, bod y llywodraeth yn hyrwyddo arloesi yn y Gymraeg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Eluned Morgan i'r uned yn ystod yr wythnos i brofi'r dechnoleg

Bwriad prosiect Lleisiwr ydy ail-greu llais cleifion sydd mewn perygl o fethu siarad achos canser y gwddf neu gyflyrau niwrolegol.

Mae'r t卯m yn yr uned yn cydweithio gyda therapyddion lleferydd o fewn y gwasanaeth iechyd i recordio'r cleifion a chreu cronfa o eiriau sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i ail-greu'r llais.

Ond gyda disgwyl i Lleisiwr ddod i ben ar 31 Mawrth, mae Ms Prys am weld cyrff sy'n ariannu prosiectau o'r fath yn edrych ymhellach tua'r dyfodol.

"Ni'n uned hunan-gyllidol, sy'n golygu ein bod ni'n dibynnu'n llwyr ar arian grant am ein bodolaeth," meddai.

"Mae'r grantiau'n aml yn rhai tymor byr, chi'n mynd o un prosiect tymor byr i un arall.

"Ry'n ni angen mwy o weledigaeth tymor hir i gynnal y prosiectau 'ma - eu bod nhw'n bethau tair blynedd o leiaf - er mwyn i ni gael ein dannedd mewn i brosiect gwerth chweil, a ddim poeni beth sy'n digwydd pan fo diwedd mis Mawrth yn dod a 'dyn ni'n colli'r gallu i ddatblygu'r gwaith ymhellach."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Lleisiwr yn un o'r prosiectau gafodd grant o 拢20,000 gan Lywodraeth Cymru

Wrth iddi ymweld 芒'r uned, dywedodd Ms Morgan fod y grantiau bychain o hyd at 拢20,000 - sy'n rhan o strategaeth Cymraeg 2050 - wedi arwain at "arloesi".

"Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi lot mwy o arian yn yr iaith Gymraeg," meddai.

"Ond yn ychwanegol i hynny, dwi'n meddwl ei fod o'n gyfle i bobl gael arloesi - 'na be' ni 'di weld yn fan hyn ydy pobl yn cymryd yr iaith mewn i gyfeiriadau gwahanol falle nad ydyn ni wedi meddwl amdanyn nhw o'r blaen.

"Ac roedd 'na lot fawr o gystadleuaeth ar gyfer y grantiau yma oedd ar gael."