大象传媒

Y Cynulliad Cenedlaethol ar frig rhestr cyflogwyr LGBT

  • Cyhoeddwyd
Gwobr LGBTFfynhonnell y llun, Y Cynulliad Cenedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cynulliad wedi ei gynrychioli mewn digwyddiadau fel Pride Cymru

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddewis yn brif gyflogwr y DU 2018 ar gyfer pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsryweddol.

Bob blwyddyn, mae elusen Stonewall yn cyhoeddi Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, ac am y tro cyntaf, mae'r Cynulliad wedi cyrraedd y brig.

Fe ganmolodd Ruth Hunt, prif weithredwr yr elusen, y Cynulliad am arwain y ffordd wrth sicrhau cydraddoldeb, yn enwedig ym maes hawliau pobl drawsryweddol.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones fod "amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd r么l y Cynulliad Cenedlaethol o ran cynrychioli pobl Cymru", a bod derbyn yr anrhydedd yn "fraint gwirioneddol".

Ffynhonnell y llun, Cynulliad Cenedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelodau a staff y Cynulliad yn paratoi i chwifio'r faner yn y Senedd ar gyfer Mis Hanes LGBT yn 2017

Mae nifer o fesurau wedi eu cyflwyno i'r Cynulliad i sicrhau amrywiaeth a chynwysiant

  • Cyflwyno toiledau a chawodydd niwtral o ran y rhywiau i staff ac ymwelwyr

  • Ymgorffori Asesiadau Effaith Cydraddoldeb mewn polis茂au corfforaethol fel y polisi iechyd meddwl i staff

  • Datblygu polis茂au cynhwysol fel polisi Trawsnewid yn y Gwaith a chanllawiau ar gyfer cefnogi pobl anneuaidd sef pobl sydd ddim yn ffitio yn syml i'r categori o fod yn wrywaidd neu fenywaidd

  • Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o bobl draws ac amrywiaeth o ymyriadau hyfforddiant ar gefnogi staff LHDT

  • Darparu cefnogaeth gan gyfoedion drwy OUT-NAW, y rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle LHDT

Pride Cymru

Mae'r Cynulliad hefyd wedi cynnal dathliadau yn ystod Mis Hanes LGBT, ac wedi anfon cynrychiolaeth i ddigwyddiadau fel Pride Cymru yng Nghaerdydd a'r Swansea Sparkle yn Abertawe.

Dywedodd Andrew White, cyfarwyddwr Stonewall Cymru fod y Cynulliad Cenedlaethol yn "gosod esiampl i bob cyflogwr o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda'r arweinyddiaeth iawn, a'r awydd i newid er gwell".

Dyma'r tro cyntaf i'r Cynulliad godi i frig y mynegai. Fe ddaeth yn drydydd yn 2016, ac yn seithfed yn 2017.