大象传媒

Mwy o arian i Betsi Cadwaladr daclo 'heriau sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi bod dan fesurau arbennig ers 2015

Bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn derbyn mwy o arian i ddelio 芒 "heriau sylweddol", wrth i'r Ysgrifennydd Iechyd rybuddio fod perfformiad rhai meysydd yn parhau'n annerbyniol.

Fe gafodd bwrdd iechyd mwyaf Cymru ei osod dan fesurau arbennig yn 2015, ac er bod rhai gwelliannau wedi bod, nid yw'n ddigonol, meddai'r llywodraeth.

Bydd Betsi Cadwaladr yn derbyn 拢13m yn ychwanegol er mwyn taclo amseroedd aros a bydd un o gyn-benaethiaid y gwasanaeth iechyd yn cael ei benodi er mwyn rhoi arweiniad a chyngor.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething fod angen sylw ar frys i faes iechyd meddwl.

'Torcalonnus'

Yn 么l Mr Gething roedd y bwrdd wedi gwella perfformiad mewn rhai meysydd "ond mae'n parhau i wynebu her sylweddol".

Ychwanegodd ei fod "yn dorcalonnus ac yn annerbyniol yn ystod 2017/18 fod problemau wedi gwaethygu o ran y sefyllfa ariannol a'r perfformiad mewn rhai meysydd allweddol".

Mewn datganiad dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Gary Doherty, fod y bwrdd iechyd yn gwbl ymwybodol o faint yr her oedd o'u blaenau.

"Mae cynlluniau mewn lle i sicrhau gostyngiad yn amseroedd aros eleni, ac rydym wedi datblygu ystod eang o gynlluniau mewn meysydd allweddol fel offthalmoleg ac orthopedeg," meddai'r datganiad.

"Mae yna hefyd gynllun i adfer y sefyllfa ariannol ar gyfer y flwyddyn hon, ac rydym yn cadw at ein hamserlen i gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt."