Gatland: 'Swydd prif hyfforddwr Cymru'n anodd i Gymro'
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi dweud y bydd hi'n anodd i Gymro ei ddilyn fel prif hyfforddwr y t卯m rygbi cenedlaethol.
Daw'r g锚m yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn wrth i'r g诺r o Seland Newydd ddathlu degawd ers ei g锚m gyntaf yn y swydd.
Bydd ei gytundeb yn dod i ben wedi Cwpan y Byd 2019 yn Japan.
"Rwy'n meddwl ei bod yn anodd i Gymro hyfforddi Cymru," meddai mewn cyfweliad 芒 大象传媒 Cymru.
"Mae hi mor rhanedig yma, ac mae pawb yn cael eu gweld fel rhagfarnllyd.
"Rydw i wastad yn dweud wrth bobl mai mater o farn yw penderfynu pwy sydd yn y garfan ac yn y t卯m.
"Rwy'n meddwl weithiau nad ydyn ni'n gwerthfawrogi'r ffordd mae pethau'n gweithio. Dyna'r penderfyniad ac efallai nad ydw i'n cytuno, ond rwy'n ei barchu."
Dywedodd Gatland ei fod yn credu bod y Cymry yr un mor frwdfrydig a gwybodus am rygbi ac y maen nhw yn Seland Newydd.
Ond mae'n dweud bod y pellter bychan rhwng pedwar rhanbarth Cymru yn golygu bod gan gefnogwyr deyrngarwch mawr tuag at eu clybiau eu hunain.
"Mae pobl Cymru'n frwdfrydig iawn am fod yn Gymry a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni, ond maen nhw'n gallu bod yn feirniadol iawn o'u hunain a'i gilydd hefyd," meddai.
A hithau'n 10 mlynedd ers i Gatland ddechrau yn y swydd, dywedodd mai ei g锚m gyntaf - pan lwyddodd Cymru i drechu Lloegr yn Twickenham - yw ei atgof mwyaf melys.
Ond ar ben arall y sbectrwm, dywedodd mai'r siom fwyaf oedd colli i Ffrainc yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd 2011 pan gafodd y capten Sam Warburton gerdyn coch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2018