Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tata yn buddsoddi 拢14m yng ngwaith dur Port Talbot
Mae cwmni Tata Steel wedi cyhoeddi buddsoddiad o dros 拢14m ym Mhort Talbot.
Bydd yn arian yn cael ei wario ar y felin strip boeth gyda'r nod o gynyddu capasiti presennol y felin o tua 5%.
Yn 么l llefarydd byddai hynny'n gyfystyr 芒 chynnydd o 150,000 tunnell y flwyddyn.
Dywed Tata fod y buddsoddiad yn rhan o gynllun adain Ewropeaidd y cwmni i gynhyrchu dur o safon uchel.
"Fe fydd hyn yn ein helpu i ymateb i'r galw am y genhedlaeth nesaf o fathau o ddur, ar gyfer ceir hybrid a thrydan, pecynnu bwyd a thai sy'n ynni effeithiol."
Daw'r cyhoeddiad diweddara am safle Port Talbot yn sgil buddsoddiad o 拢30m ym mis Tachwedd.
Mae cwmni Tata yn cyflogi tua 4,000 ar y safle ym Mhort Talbot.