Ynys B欧r: Dioddefwr gwrywaidd yn rhannu ei brofiad

Disgrifiad o'r llun, Roedd y Tad Thaddeus Kotik yn dod i gysylltiad 芒 phlant ar Ynys B欧r

Mae person arall sy'n honni iddo gael gam-drin yn rhywiol ar Ynys B欧r yn galw am ymchwiliad.

Dyma'r tro cyntaf i ddyn siarad yn gyhoeddus am y gamdriniaeth honedig a ddioddefodd gan Thaddeus Kotik.

Mae e wedi cyfeirio'r manylion at Heddlu Dyfed-Powys ac mae e'n annog dynion eraill i adrodd eu profiadau.

Dywedodd Mark (nid ei enw iawn) fod Kotik wedi dod yn ffrindiau gyda'i dad yn y 1960au pan aeth ei deulu i Ynys B欧r ar wyliau.

Dywedodd bod Kotik wedi treulio blynyddoedd yn ei baratoi at bwrpas rhyw a'i fod wedi cael ei gam-drin nifer o weithiau o wyth oed ymlaen.

Mae e nawr yn galw am ymchwiliad cyhoeddus ac mae'n ychwanegu: "Trwy ganiat谩u i chi gyhoeddi fy stori byddaf, gobeithio, yn annog eraill i adrodd eu stori nhw.

"Gallai mwy o adroddiadau olygu cael ymchwiliad."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod wedi derbyn wyth honiad o gam-drin rhyw hanesyddol ar Ynys B欧r - saith yn gysylltiedig 芒 Thaddeus Kotik a'r llall yn ymwneud ag ymwelydd gwrywaidd arall 芒'r ynys.

Derbyniodd saith merch iawnd芒l gan Abaty Ynys B欧r mewn setliad tu allan i lys yn 2016.

Dywedodd Mark fod Kotik wedi estyn croeso iddo ef a'i deulu drwy eu gwahodd i ardd breifat y fynachlog i gael te, pop a bisgedi.

Y flwyddyn ganlynol cafodd Mark ei gam-drin gan Kotik yn yr ardd honno.

Dywedodd na soniodd wrth neb ar y pryd am nad oedd am fynd i drafferthion.

Yr haf wedi hynny fe wahoddodd Kotik deulu Mark yn 么l i'r ynys ac fe drefnodd iddynt aros yn llety St Philomena.

Bu tad Mark yn gwneud amrywiol f芒n swyddi ar yr ynys er mwyn talu am y gwyliau ac fe gynigiodd Kotik i edrych ar 么l Mark a'i frodyr a'i chwiorydd.

Mae Mark yn dweud iddo gael ei gam-drin yng nghegin y fynachlog ar ddiwrnod cyntaf y gwyliau hwnnw.

Ar achlysur arall roedd yn helpu Kotik i bacio y bariau siocled yr oedd y mynachod yn eu gwerthu.

"Dwi'n cofio rhewi. Ddwedais i ddim ond dwi'n cofio teimlo'n ofnus ac wedi fy ypsetio," meddai Mark.

Fe ollyngodd far siocled ar y llawr a symud i'w godi er mwyn dianc rhag Kotik.

Disgrifiad o'r llun, Bu Thaddeus Kotik yn byw ar Ynys B欧r o 1947 hyd at ei farwolaeth yn 1992

O hynny ymlaen roedd Mark yn osgoi bod ar ben ei hun yng nghwmni Thaddeus Kotik er i'r mynach barhau i fod yn ffrind i'r teulu, a bu'n ymweld 芒 nhw am wythnos bob blwyddyn.

Mae Mark wedi bod n么l ar yr ynys fel oedolyn a hynny yng nghwmni ei fab ei hun ond dyw e erioed wedi'i adael i grwydro ar ei ben ei hun.

"Wrth edrych yn 么l allai'm maddau i fi fy hun am roi fy mab mewn sefyllfa mor fregus er fy mod i neu oedolyn arall gydag e gydol yr amser," dywedodd.

Fe barhaodd tad Mark yn ffrindiau 芒 Kotik ac fe aeth ef i angladd y mynach yn 1992.

Mae Mark wedi ei chael hi'n anodd derbyn ei fod wedi cael ei fradu gan fynach a gredai a oedd yn ffrind iddo am 27 mlynedd.

Dywedodd: "Dim ond ers clywed a darllen am y cam-drin rwyf i o'r diwedd wedi derbyn fy mod i hefyd wedi cael fy ngham-drin gan Thaddeus."

Mae cais wedi cael ei roi i Abaty Ynys B欧r am ymateb.