大象传媒

Band eang: 'Peidiwch gadael cymunedau Gwynedd ar 么l'

  • Cyhoeddwyd
band eangFfynhonnell y llun, Thinkstock

Roedd tua 50 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhorthmadog nos Iau i leisio cwynion am ddiffyg band eang cyflym yn yr ardal i'w cartrefi a'u busnesau.

Cafodd pryderon eu codi yngl欧n 芒 gwaith uwchraddio oedd ddim wedi ei gwblhau eto mewn rhai ardaloedd er gwaethaf addewidion i wneud hynny.

Roedd Julie James, gweinidog Llywodraeth Cymru 芒 chyfrifoldeb dros fand eang, a chynrychiolwyr o Openreach, yno i wrando ar y pryderon.

Dywedodd AS lleol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts fod angen i'r llywodraeth a'r cwmni "gofio am y cymunedau mwyaf anghenus".

'Byth wedi cyrraedd'

Clywodd y cyfarfod gwynion fod Openreach ddim wedi gorffen y gwaith o ddod 芒 band eang cyflym i'w cartrefi, a bod gwifrau wedi eu gadael yn hongian ychydig lathenni i ffwrdd.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cytundeb i Openreach i gysylltu 690,000 o gartrefi yng Nghymru, ond daeth y cytundeb i ben ddiwedd Rhagfyr ac mae rhai cartrefi'n dweud eu bod yn dal i ddisgwyl i gael eu cysylltu.

Mewn rhai achosion nid dim ond cartrefi a busnesau unigol oedd heb gyswllt, ond roedd cymunedau cyfan yn dal yn methu derbyn y gwasanaeth.

Dywedodd Julie James fod cytundeb newydd gwerth 拢80m, fyddai'n cael ei arwyddo yn ystod yr wythnosau nesaf, yn sicrhau fod 88,000 yn rhagor o gartrefi yn cael eu cysylltu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd tua 50 o bobl yn y cyfarfod i glywed am y cynlluniau a lleisio'u pryderon

Hyd yn oed wedyn, fodd bynnag, byddai rhai cartrefi yn dal yn methu derbyn band eang cyflym.

Roedd rhai o'r bobl yn y cyfarfod ym Mhorthmadog wedi teithio o Lanymawddwy, cymuned sy'n methu cael gwasanaeth ff么n symudol na band eang.

Dywedodd un o'r trigolion: "Mi faswn i'n hoffi deud fy mod i wedi cael fy nghalonogi heno ond pryderus ydw i. Er bod Llanymawddwy wedi cael ei addo fo dair blynedd yn 么l dydi o byth wedi cyrraedd."

Ychwanegodd dyn arall, o Lwyndyrys ger Pwllheli: "Dwi ddim wedi clywed dim byd sy'n llenwi unrhyw un hefo unrhyw ffydd lle mae cwmni fel BT yn y cwestiwn, a does 'na ddim math o reolaeth ar y cynllun gan Lywodraeth Cymru chwaith."

'Teimladau cryf'

Ar ran Openreach, sydd wedi bod yn gweithredu'r cynllun i BT, dywedodd Ynyr Roberts: "Mae'r gwaith rydan ni wedi ei wneud wedi bod yn llwyddiant i ddod 芒 chymaint o gysylltiadau ar draws Cymru yn y cyfnod rydan ni wedi bod yn gweithio.

"Mae gweld nerth teimladau pobl yma heno, pobl sydd wedi cael eu gadael ac yn teimlo yn rhwystredig, mae hynny'n ein gwneud ni'n fwy penderfynol i ffeindio'r arian yn fewnol a chyda phartneriaid eraill, i orffen y gwaith a chysylltu'r bobl yma sy'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael ar 么l."

Dywedodd Ms Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd: "Dwi'n diolch i'r gweinidog am ddod yma heddiw, mae'n dda ei bod hi yn wynebu pobl ac yn clywed eu problemau.

"Ond yr hyn dwi'n erfyn arnyn nhw r诺an ydi dysgwch y gwersi o'r cam cyntaf, a chofiwch am y cymunedau mwyaf anghenus... peidiwch 芒'u gadael nhw ar 么l."