Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carcharu 12 am gyflenwi heroin a choc锚n yn Abertawe
Mae 12 o bobl wedi cael eu carcharu am gyfanswm o dros 48 mlynedd am fod yn gysylltiedig 芒 gwerthu cyffuriau Dosbarth A yn Abertawe.
Bydd y gang yn treulio rhwng 28 mis a naw mlynedd yn y carchar.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Ahmed Hussain, 29, a Mustafa Mohamed, 29, yn trefnu i symud y cyffuriau o Lundain i dde Cymru ar drenau ac ar hyd yr M4.
Dywedodd yr erlyniad bod y cynllwyn wedi parhau hyd yn oed ar 么l i Hussain a Mohamed gael eu harestio, gydag Elen Ekpaloba yn camu i'w r么l.
Mae troseddau o'r math yma'n cael eu galw'n rhai "county lines", ble mae gangiau mewn dinasoedd mawr fel Llundain yn cyflenwi cyffuriau i werthwyr mewn dinasoedd neu drefi llai.
Tracio ffonau symudol
Fe wnaeth Ymgyrch Blue Thames yr heddlu ddarganfod bod y criw yn gyrru negeseuon tecst at gwsmeriaid yn dweud pan fo rhagor o gyffuriau wedi cyrraedd Abertawe.
Ond fe wnaeth heddlu cudd ymateb i rai o'r negeseuon yma, gan drefnu i gwrdd 芒'r gwerthwyr i ffugio prynu heroin a choc锚n.
Fe wnaeth yr heddlu hefyd dracio ffonau symudol y gang, gan weld eu bod yn teithio'n aml rhwng Llundain ac Abertawe.
Dywedodd yr erlyniad bod y criw wedi gallu gwneud 拢103,000 gan ddefnyddio dim ond un ff么n.
Pan gafodd y ff么n hwnnw ei gymryd gan yr heddlu, fe wnaeth y gwerthu barhau gydag un arall, a cafodd yr ail ff么n ei ddefnyddio i werthu 拢26,500 o gyffuriau.
Fe wnaeth dros 600 o heddweision gymryd rhan yn Ymgyrch Blue Thames dros gyfnod o chwe mis.
Y dedfrydau'n llawn
- Mustafa Mohamed, 29 o Lundain - naw mlynedd
- Ahmed Hussain, 29 o Lundain - chwe blynedd a hanner
- Elen Ekpaloba, 21 o Lundain - pedair blynedd a phedwar mis
- Jamie Knox, 26 o Abertawe - pedair blynedd
- Phillipa Turner, 29 o Abertawe - pedair blynedd
- Jonathan Harling, o Abertawe - tair blynedd ac wyth mis
- Jama Fahima, 22 o Lundain - tair blynedd ac wyth mis
- Kerry Inger, 21 o Abertawe - tair blynedd
- Michael Chalk, 48 o Abertawe - dwy flynedd ac wyth mis
- Nigel Dixon, 43 o Abertawe - dwy flynedd ac wyth mis
- Sophie Colfer, 27 o Abertawe - dwy flynedd a phedwar mis
- David Parry, 33 o Abertawe - dwy flynedd a phedwar mis