大象传媒

Cynllun d诺r i leihau gwastraff plastig

  • Cyhoeddwyd
Llanilltud FawrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg yw'r dref gyntaf yng Nghymru i fod yn rhan o gynllun Refill

Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg fydd yn dref gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn cynllun i leihau gwastraff boteli plastig drwy gynnig ail-lenwi d诺r yn rhad ac am ddim.

Mae cynllun Refill yn annog pobl i ail-lenwi eu poteli mewn siopau, tai bwyta a busnesau eraill fydd yn cymryd rhan yn y fenter.

Cafodd y cynllun ei lansio ym Mryste yn 2015 ac erbyn hyn mae 15 cynllun o'r fath yn y DU gyda 1,600 o 'orsafoedd' ail-lenwi.

Dywed Refill eu bod hefyd wedi derbyn ymholiadau gan gymunedau yng Ngwynedd, Caerdydd, Ceredigion, Sir Benfro ac Ynys M么n sydd am ymuno.

Dywedodd clerc cyngor tref Llanelltud, Ruth Quinn, y byddai'r cyngor yn talu ffi o 拢250 er mwyn cofrestru gorsafoedd ail-lenwi gyda Water UK, corff sy'n goruchwylio'r diwydiant d诺r.

Un o'r rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun yw Jacquie Jenkins, perchennog siop trin gwallt yn y dref.

Dywedodd iddi gael ei hysbrydoli ar 么l gwylio'r rhaglen Blue Planet II ac ar 么l i'w mab ddweud iddo weld gwastraff plastig ofnadwy tra ar ymweld ag Ynys Bali

"Fe es i ar wefan Facebook a gofyn 'sut allaf i fel busnes leihau gwastraff plastig.'

Ffynhonnell y llun, Jon Craig
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ap ar gael sy'n rhoi lleoliad gorsafoedd ail-lenwi

"Fe wnaeth perchennog busnes arall yn y dref awgrymu cynllun Refill, ac ar 么l ychydig o waith ymchwil fe wnes i gynnig y syniad i'r cyngor tref."

Dywedodd Natalie Fee, sy tu cefn i gynllun Refill: "Mae wedi bod yn brofiad gwych i weld cymunedau lleol yn dangos gymaint o ddiddordeb mewn sefydlu cynlluniau Refill eu hunain.

"Mae Llanilltud yn lle hyfryd ac mae yna draethau hyfryd yno, gallai ddim aros i weld Refill yn llwyddo yno."

Dywedodd D诺r Cymru eu bod yn trafod gyda phartneriaid a sefydliadau yngl欧n 芒 chodi ymwybyddiaeth am y difrod sy'n cael ei achosi i'r amgylchedd gan blastig a micro-plastig, a sut y gallai defnyddio d诺r tap i ail lenwi ddod yn ail natur yng Nghymru.

Dywedodd cwmni d诺r Hafren Trent, sy'n gwasanaethu rhan fawr o ganolbarth Cymru, ei fod yn cefnogi ymgyrch Refill ac y byddai yn ei gynorthwyo i sefydlu o fewn cymunedau'r ardal yn y dyfodol agos.