Perygl i bysgota gael ei 'adael ar 么l' wedi Brexit

Disgrifiad o'r llun, Yng Nghymru mae pysgotwyr yn tueddu i bysgota cimychiaid a chrancod
  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru

Mae perygl i ddiwydiant pysgota Cymru gael ei "adael ar 么l" yn ystod trafodaethau Brexit oherwydd ei hanghenion unigryw, medd adroddiad newydd.

Blaenoriaeth gweddill y DU yw gwell rheolaeth ar eu moroedd a chwot芒u, ond mae dogfen y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn dweud bod angen mynediad rhwydd at farchnadoedd Ewrop yng Nghymru.

Arbenigedd y rhan fwyaf o gychod Cymru yw cregynbysgod, gyda 90% o'r cynnyrch sy'n cael ei ddal yn cael ei allforio i'r UE.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "am weld diwydiant pysgota Cymru yn derbyn ei chyfran deg o'r cyfleoedd i bysgota yn y dyfodol".

92% yn gychod bach

Yn 么l Cymdeithas Pysgotwyr Cymru mae angen i weinidogion gynllunio system iawndal i bysgotwyr os yw allforion yn cael eu heffeithio gan dollau ac oedi wedi Brexit.

Eu honiad yw y gallai busnesau "fynd i'r wal" heb system debyg, gyda goblygiadau mawr i gymunedau arfordirol.

Y diwydiant pysgota yw un o'r diwydiannau sydd wedi ei effeithio fwyaf gan y penderfyniad i adael yr UE.

Am ddegawdau, roedd pysgotwyr Prydain yn glynu at Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin, gyda'r nod o reoli pysgota ar lefel Ewropeaidd ac amddiffyn y cyflenwad o bysgod.

Nawr mae Llywodraeth y DU yn bwriadu llunio deddf i'w ddisodli, ac mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu creu polis茂au pysgodfeydd "dynamig" eu hunain.

Fe wnaeth y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ddarganfod fod pysgotwyr Cymru yn tueddu i bysgota cregynbysgod fel cimwch a chranc.

Does dim cyfyngiadau UE ar niferoedd y creaduriaid yma sy'n cael eu dal.

O'r 451 o gychod sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru, mae 92% ar raddfa fach, sy'n cael eu diffinio fel 10m neu lai o ran hyd.

Golyga hyn nad yw mwyafrif pysgotwyr Cymru mewn sefyllfa i fanteisio ar ardaloedd pysgota estynedig wedi Brexit, nac os yw gweinidogion yn penderfynu cynyddu cwot芒u.

Disgrifiad o'r fideo, Mae Sion Williams yn dweud y bydd yna "broblemau mawr" os na fydd yn gallu gwerthu cynnyrch yn gyflym

Roedd yr adroddiad yn edrych ar chwe senario, gan gynnwys Brexit meddal, caled a Brexit heb gytundeb.

Eu casgliad oedd y byddai mwyafrif pysgotwyr Cymru'n dioddef ym mhob senario heblaw bod y diwydiant yn cael ei weld fel y brif flaenoriaeth yn ystod y trafodaethau.

Byddai nifer o borthladdoedd hefyd mewn sefyllfa "waeth" wedi Brexit, yn enwedig os yw cychod o wledydd fel Gwlad Belg yn cael eu hatal rhag pysgota yng Nghymru yn y dyfodol.

Llai na 1% o gwota

Mae dros draean o werth y pysgod sy'n glanio ym mhorthladdoedd Cymru'n dod o gychod Ewropeaidd.

Argymhelliad yr adroddiad yw bod gweinidogion yn canolbwyntio ar gael mynediad i farchnadoedd yr UE, ond yn yr hirdymor, y darogan yw bydd mwy o gyfleoedd pysgota ym moroedd Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Does dim cyfyngiadau UE ar ddal cregynbysgod, y cynnyrch y mae'r rhan fwyaf o bysgotwyr Cymru'n ei ddal

Ar hyn o bryd, mae cychod Cymru'n cael llai nag 1% o'r cwot芒u pysgota ar gyfer Prydain, a tua 0.02% o'r cwot芒u yn gyfan gwbl gan yr UE.

Gallai'r cwot芒u newid i system lle mae pwysau neu faint cyfartalog pysgodyn mewn moroedd penodol yn cael ei gyfri'.

Mae'r darlun yn gymhleth oherwydd ansicrwydd am ddatganoli mwy o bwerau'n ymwneud 芒 physgota i Gymru. Hefyd gallai trafodaethau barhau am bysgod sy'n nofio rhwng moroedd y DU a'r UE.

Achosi problemau?

Pysgotwr crancod a chimychiaid yw Sion Williams o Borth Colmon ger Aberdaron.

Mae'n llefarydd ar gyfer Cymdeithas Pysgotwyr Cymru, a dywedodd bod cwot芒u'r UE wedi bod yn anfanteisiol i Gymru.

"Fydd o'n [Brexit] gyfle os gewn ni afael ar bysgod o fewn ein moroedd ni yng Nghymru yn 么l", meddai.

"Ond hefyd mae o'n medru achosi problemau i ni... Yn 2017 'nathon ni landio gwerth 拢33.8 miliwn o gynnyrch ac mae 90% o hwnna yn mynd yn uniongyrchol i mewn i farchnadoedd Ewrop."

Ychwanegodd ei bod yn hanfodol cael "mynediad i'r farchnad" neu "iawndal os ydy pethau yn mynd yn ddrwg".

Cafodd yr adroddiad ei groesawu gan Lywodraeth Cymru, a ddywedodd y byddai'n "helpu i ni a'r diwydiant pysgota yng Nghymru baratoi ar gyfer effaith 芒 chyfleoedd Brexit".

Ychwanegodd llefarydd bod yr adroddiad yn cyd-fynd a dadansoddiad y llywodraeth "bod y diwydiant yn ddibynnol yn bennaf ar allforio pysgod cregyn, ac yn arbennig o fregus mewn sefyllfa ble y collir marchnadoedd neu unrhyw rwystrau di-dariff".

Dywedodd bod hynny'n profi pwysigrwydd mynediad i'r farchnad sengl.

"Rydym am weld diwydiant pysgota Cymru yn derbyn ei chyfran deg o'r cyfleoedd i bysgota yn y dyfodol.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o foroedd gl芒n, iach, diogel, cynhyrchiol, amrywiol yn fiolegol a chydnerth o amgylch Cymru, gan gefnogi cymunedau arfordirol bywiog, trwy gyfnod Brexit a thu hwnt."