Camweinyddu cyfiawnder: Angen cosbi troseddwyr yn llymach
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwad i newid y gyfraith i gosbi troseddwyr yn llymach os ydyn nhw'n caniatau i gamweinyddu cyfiawnder ddigwydd yn fwriadol.
Daw'r alwad gan rhai, gan gynnwys Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu De Cymru, Alun Michael, 30 mlynedd ers un o lofruddiaethau enwocaf Prydain.
Fe gafodd Lynette White, 20 oed, ei thrywanu mwy na 50 o weithiau gan Jeffrey Gafoor mewn fflat yn nociau Caerdydd yn 1988.
Fe dderbyniodd dditectifs wybodaeth fod dyn gwyn wedi cael ei weld yn ardal y llofruddiaeth mewn cyflwr gofidus, gyda'i ddwy law wedi'u gorchuddio 芒 gwaed.
10 mis yn ddiweddarach, fe gafodd pum dyn du eu harestio. Fe gafodd tri eu canfod yn euog o ladd Ms White, ond fe gawson nhw eu rhyddhau yn ddiweddarach wedi achos yn y Llys Ap锚l.
Tri Caerdydd
Fe wnaeth datblygiad mewn technoleg DNA arwain yr heddlu at y llofrudd, a oedd 芒'i draed yn rhydd am 15 mlynedd, wedi i ddynion dieuog dreulio amser yn y carchar.
Fe gafwyd Gafoor yn euog yn 2003 wedi iddo gyfaddef i'r drosedd. Fe gafodd ddedfryd o oes yn y carchar, gydag isafswm o 13 mlynedd cyn iddo gael ei ystyried am bar么l. Fe allai gael ei ryddhau ar unrhyw adeg.
Tri o'r pump gafodd eu harestio'n wreiddiol sy'n dal yn fyw - Tony Paris, 60, John Actie, 56, a Stephen Miller, 52. Maen nhw wedi dioddef o stigma wedi achos lofruddiaeth Lynette White ers 30 mlynedd, ac yn dweud y byddai gadael Gafoor allan o'r carchar yn sarhaus.
Maen nhw'n teimlo y dylai Gafoor fod wedi cael dedfryd hirach dan glo.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu De Cymru, Alun Michael o'r un farn.
"Yn sicr, roedd cwestiynau wedi codi mewn nifer o lefydd a oedd y ddedfryd yn ddigonol i natur y drosedd, a'r ffaith fod nifer o bobl ddieuog wedi treulio cyfnod yn y carchar o ganlyniad i benderfyniad Gafoor i beidio 芒 chyfaddef yn gynt," meddai.
Ychwanegodd: "Alla i ddim ateb y cwestiynau sydd wedi'u codi, ond dwi'n teimlo eu bod nhw yn ddilys ac mae'n her nawr i'r system gyfiawnder er mwyn sicrhau fod pob ffactor yn cael eu hystyried yn y broses ddedfrydu yn y dyfodol."
Fe ddaeth yr achos ddod i ben ym mis Gorffennaf llynedd, wedi 30 mlynedd o waith cyfreithiol.
Cyfiawnder
Ar 么l i Jeffrey Gafoor gael ei ddedfrydu, fe lansiodd yr heddlu ymchwiliad i'r achos gwreiddiol.
Fe wnaeth tri o'r prif dystion, Mark Grommek, Leanne Vilday, Angela Psaila gyfaddef eu bod wedi dweud celwydd yngl欧n ag ymwneud 'Tri Caerdydd' 芒'r drosedd.
Fe gafodd y tri eu carcharu am 18 mis gan y barnwr am anudoniaeth, neu ddweud celwydd yn y llys.
Fe ddechreuodd achos o lygredd o fewn yr heddlu yn 2011. Roedd yr achos yn honni fod wyth ditectifs sydd wedi ymddeol, wedi "ymddwyn yn llygredig gyda swyddogion eraill er mwyn creu achos yn erbyn y pum dyn".
Fe chwalodd yr achos bum mis yn ddiweddarach oherwydd problemau yn ymwneud 芒 datguddiadau. Fe wnaeth y barnwr atal yr achos gan ddatgan fod y diffynyddion i gyd yn ddieuog.
Fe effeithiodd yr achos ar enw da Heddlu'r De.
Mae'r staen yn parhau ar y llu, a dywedodd y Prif Gwnstabl presennol, Matt Jukes, ei fod yn benderfynol o fynd i'r afael 芒 hynny.
Wrth siarad ar ben-blwydd llofruddiaeth Lynette White, dywedodd Ms Jukes: "Mae'r hyn rydym wedi'i ddysgu o lofruddiaeth Lynette White a'r ymchwiliad gwreiddiol wedi ein harwain at edrych ar achosion hanesyddol eraill, ac mae hynny wedi arwain at euogfarn mewn sawl achos arall.
"Felly mae'r achos ei hun wedi ysgogi newid o fewn y sefydliad ac wedi dod 芒 chyfiawnder i nifer o ddioddefwyr eraill.
"Rydym yn benderfynol o beidio 芒 methu fel hyn eto gan wneud yn si诺r fod ein hymchwiliadau o'r safon uchaf, yn broffesiynol, yn dechnegol, ac yn foesol.
"Er i'r drosedd ddigwydd 30 mlynedd yn 么l, mi fydd yn fyw yng nghof y sefydliad yma a'i arweinwyr am genhedlaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017