Arddangosfeydd i ddathlu'r arlunydd Syr Kyffin Williams
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfeydd yn dathlu'r arlunydd Syr Kyffin Williams wedi agor yn Aberystwyth ac Ynys M么n.
Roedd Syr Kyffin, fu farw yn 2006, yn cael ei ystyried gan rai fel arlunydd Cymreig mwyaf dylanwadol ail hanner yr 20fed ganrif.
Ganwyd yn 1918, ac mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru i ddathlu canmlwyddiant ei enedigaeth.
Mae casgliad sylweddol o'i waith yn cael ei ddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, tra bod arddangosfa o'i baentiadau a dogfennau personol wedi agor yn Oriel Kyffin Williams yn Oriel Ynys M么n, Llangefni.
Dywedodd Lona Mason, sy'n bennaeth graffig, sgrin a sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Roedd Syr Kyffin yn artist anhygoel.
"Roedd yn boblogaidd iawn ac roedd ganddo lawer o ddilynwyr. Casglodd llawer o bobl ei gelf yng Nghymru ac ymhell y tu hwnt.
"Dechreuodd weithio gyda ni yn y llyfrgell yn y 1940au. Dyna ble dechreuodd y berthynas dda 芒 Kyffin, un oedd wedi para hyd at ei farwolaeth yn 2006.
"Ac wrth gwrs, fe wnaethon ni dderbyn casgliad mawr, dros 300 o baentiadau ganddo ef ei hun ac amryw o artistiaid eraill yr oedd Kyffin wedi eu hetifeddu a'u casglu.
"Ac roedd dros 1,200 o weithiau ar bapur, tra bod ei archifau a llythyrau personol hefyd wedi cyrraedd yma.
"Felly mae'n debyg y cawsom y casgliad gorau o Kyffins yn y byd, ac mae'r canmlwyddiant yn gyfle i ni ddod a rhain allan a'u rhannu."
Mae digon o esiamplau o dirluniau eiconig Syr Kyffin yn yr oriel, yr olew yn drwchus a marciau ei gyllyll yn amlwg.
Ond hefyd yn hongian ar y muriau mae ei baentiadau dyfrlliw, lluniau inc a golch, a'r portreadau lliwgar o gymeriadau ei gynefin.
'Paentio oedd ei fywyd'
Mae David Wynn Meredith, oedd yn gyfaill i'r artist ac sy'n cadeirio Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, yn cofio agwedd yr artist at baentio.
"Roedd yn credu bod rhaid i chi garu'ch pwnc, ac os nad ydych chi'n caru unrhyw beth ni allwch ei gyfathrebu'n gywir," meddai.
"Ac yn sicr roedd gan Kyffin gariad. Roedd yn caru pobl, roedd yn caru'r mynyddoedd, roedd yn caru'r morluniau.
"Roedd yn gwbl ymrwymedig i'w grefft fel paentiwr. Paentio oedd ei fywyd.
"Doedd e ddim yn emosiynol am y peth o gwbl. Fel y dywedodd yn aml: 'Dyma yw fy ngwaith'."
Roedd Syr Kyffin yn gefnogwr o Oriel Ynys M么n, ac fe wnaeth ei haelioni arwain at enwi un o'r orielau yno yn ei anrhydedd.
Dywedodd Ian Jones, rheolwr casgliadau Oriel Ynys M么n, fod Syr Kyffin yn hynod o weithgar.
"Mi oedd Kyffin yn ddyn llawn egni a llawn brwdfrydedd am ei wlad a'i gefndir. Felly doedd e ddim yn gallu stopio paentio a bod allan ym mhob tywydd," meddai.
"Fe ddes i ar ei draws yn bersonol unwaith, yn sgetshio ar ochr l么n, a doedd e ddim yn mynd i golli ei sylw o'r olygfa. Roedd e'n focussed iawn ar ei waith."
Kyffin Williams: Tu 么l i'r Ffr芒m, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (16 Chwefror - 1 Medi)
Kyffin Williams: Dathlu Canmlwyddiant, Oriel Ynys M么n (3 Chwefror - 1 Gorffennaf)