Dweud stori marwolaeth mab i annog sgwrs rhoi organau
- Cyhoeddwyd
Mae mam dyn gafodd ei lofruddio mewn ymosodiad yn gobeithio y bydd rhannu ei hanes gyda phlant ysgol yn ysgogi teuluoedd i siarad am roi organau.
Bu farw Conner Marshall, 18, ar 么l yr ymosodiad ym mharc carafanau Bae Trecco ym Mhorthcawl yn 2015.
Roedd ei anafiadau mor ddifrifol mai ond ei iau a'i arennau oedd yn gallu cael eu trawsblannu, ond fe wnaeth hynny arbed bywydau tri.
Mae ei stori'n rhan o becyn gwybodaeth i ddisgyblion fydd yn cael ei rannu gyda phob ysgol yng Nghymru.
Parchu dymuniad
Yng Nghymru mae'n cael ei gymryd yn ganiataol fod pob oedolyn yn fodlon rhoi organ wedi iddyn nhw farw, os nad oedden nhw wedi dweud fel arall. Mae teuluoedd yn gallu mynd yn erbyn y penderfyniad yna.
Dywedodd mam Mr Marshall, Nadine, sydd o'r Barri, bod ei mab yn teimlo'n gryf o blaid rhoi organau.
Mae hi'n cofio sgwrs ddoniol gyda'i mab pan oedd yn 16 ac yn "gwbl o blaid" y syniad.
Ychwanegodd Mrs Marshall: "Rydych chi'n cael sgwrs heb sylwi y gallai fod yn wir."
Pedwar diwrnod ar 么l yr ymosodiad, roedd rhaid i rieni Conner wneud y penderfyniad: "Pan wnes i gyfarfod y nyrs trawsblannu i ddechrau roedd hi'n sgwrs anodd.
"O'n i'n teimlo ei fod o wedi dioddef digon a ddim eisiau iddo fod mewn mwy o boen, dwi'n gwybod bod hynny'n swnio'n wirion.
"Ond dyna oedd Conner eisiau a fel ei rieni roedden ni ond eisiau ei wneud yn hapus, ac o'n i'n gwybod na dyna oedd ei ddymuniad felly roedd rhaid parchu hynny."
Gobaith Mrs Marshall yw y bydd clywed stori Conner yn dechrau sgwrs mewn teuluoedd eraill: "Dydw i ddim yn gwybod os ydy o'n rhywbeth Prydeinig, ond nid yw'n cael ei drafod."
Ychwanegodd ei bod yn falch o benderfyniad ei mab: "Roedd yn benderfyniad mor fawr i berson ifanc a dwi'n falch iawn ei fod wedi gallu gwneud hynny.
"Dwi'n meddwl ei fod yn dangos cryfder ei gymeriad ac empathi."
Bydd y pecyn i ddisgyblion yn cynnwys fideo o gyfweliad gyda Mrs Marshall a nifer o gwestiynau a senarios gwahanol i blant eu hystyried.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y pecynnau wedi eu cynhyrchu gyda'r Gwasanaeth Iechyd, ac y byddan nhw'n cael eu dosbarthu ym mis Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2015