Addysg uwch: Pryder am effaith prisiau gwahanol i gyrsiau

Ffynhonnell y llun, PA

Mae is-ganghellor un o brifysgolion Cymru wedi rhybuddio fod risg y gallai "hierarchaeth" gael ei greu o fewn addysg uwch os yw rhai cyrsiau'n costio mwy nag eraill.

Roedd yr Athro Cara Aitchison o Brifysgol Met Caerdydd yn siarad wedi i'r Prif Weinidog Theresa May gyhoeddi adolygiad o addysg 么l-18 yn Lloegr.

Fe wnaeth ysgrifennydd addysg Llywodraeth y DU, Damian Hinds ddweud y dylai ffioedd dysgu adlewyrchu gwerth y radd "i'n cymdeithas yn ehangach".

Rhybuddiodd yr Athro Aitchison y gallai'r adolygiad gael "goblygiadau" i Gymru.

'Codi g锚m'

Dywedodd fod pryder y gallai'r newid arwain at gyrsiau gwyddonol yn mynd yn ddrytach na rhai yn y celfyddydau, ac felly'n fwy tebygol o ddenu myfyrwyr o gefndiroedd cyfoethocach.

"Ydyn ni wir eisiau gwlad ble mae'n holl ddoctoriaid ni wedi cael addysg breifat ac wedyn wedi mynd i nifer cyfyngedig o brifysgolion?" meddai.

"Dwi'n meddwl ein bod ni eisiau proffesiynau ble mae'r gweithwyr yn adlewyrchu'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.

"Felly bydd hi'n anodd iawn ehangu symudedd cymdeithasol os 'dyn ni'n creu marchnadoedd pris gwahanol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd y system grantiau ar gyfer ffioedd dysgu yng Nghymru yn newid ym mis Medi

Mae'r system o ariannu cyrsiau addysg uwch yng Nghymru - sydd ar hyn o bryd yn rhoi grant blynyddol o 拢4,954 tuag at ffioedd pob myfyriwr - yn newid o fis Medi.

Yn dilyn hynny bydd myfyrwyr o Gymru'n gallu gwneud cais am grant drwy brawf modd o hyd at 拢9,000, neu 拢10,000 yn Llundain, i helpu gyda chostau byw.

Dywedodd yr Athro Aitchison fod y system newydd yn "flaengar", ond fod pryder fod arian yn cael ei golli wrth i fyfyrwyr o Gymru fynd i astudio yn Lloegr.

"Mae angen i ni godi'n g锚m ni yng Nghymru i sicrhau ein bod ni'n cynnig sector addysg uwch gwirioneddol ddeniadol sy'n recriwtio nid yn unig o Loegr, ond o bob cwr o'r byd," ychwanegodd.

'DU gyfan'

Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams y byddai'r drefn newydd o fis Medi ymlaen yn golygu bod myfyrwyr o Gymru yn "elwa o'r system gymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn y DU".

Ond mynnodd Llyr Gruffydd o Blaid Cymru fod "myfyrwyr yng Nghymru yn talu'r un faint 芒 myfyrwyr yn Lloegr diolch i bolisi'r blaid Lafur o fewn Llywodraeth Cymru".

Dywedodd Amanda Wilkinson, cyfarwyddwr corff Prifysgolion Cymru fod "goblygiadau DU gyfan" i unrhyw benderfyniad gan Lywodraeth y DU ar addysg uwch yn Lloegr, er bod y sector wedi'i ddatganoli.

"Bydden ni'n disgwyl i ganlyniad yr adolygiad yma ddysgu oddi wrth brofiad Cymru ac ystyried yr effaith fyddai argymhellion yr adolygiad yn ei gael ar brifysgolion ar draws y DU gyfan," meddai.