大象传媒

Croesawu cynnal yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Llanbed

  • Cyhoeddwyd
Rhyng-golFfynhonnell y llun, @Dewijones97
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prifysgol Bangor ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Ryng-golegol Cymru yn 2017

Mae busnesau yn Llanbedr Pont Steffan wedi croesawu cyhoeddiad y bydd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn cael ei chynnal yn y dref am y tro cyntaf.

Yn 么l Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae cofnodion yn nodi nad yw'r eisteddfod wedi cael ei chynnal yn y dref o'r blaen.

Er y croeso i'r cyhoeddiad, mae rhai busnesau wedi dweud nad ydyn nhw wedi derbyn llawer o fanylion am y digwyddiad hyd yn hyn.

Dywedodd y brifysgol y bydd myfyrwyr yn ymweld 芒 busnesau lleol i'w hysbysu am y digwyddiad "yn y man".

'Cyffro mawr'

Bydd hyd at 500 o fyfyrwyr o Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin yn Llanbed ar 9 a 10 Mawrth ar gyfer y cystadlaethau chwaraeon a'r eisteddfod.

Yn siarad gyda Cymru Fyw dywedodd perchennog tafarndai yn Llanbed ei fod yn croesawu'r digwyddiad ond nad yw wedi derbyn gwybodaeth am y digwyddiad.

"Mae hwn yn beth da iawn i Lanbed", meddai Nick Wright, sy'n berchen ar dafarndai'r Nags Head a'r Castell.

"Mae gyda ni gysylltiad agos gyda'r brifysgol yn barod, am mai ni sy'n noddi'r timau p锚l-droed a rygbi, merched a bechgyn.

"Ond fe fyddai'n braf cael mwy o wybodaeth cyn y digwyddiad ei hun, achos does dim llawer o amser tan hynny, ac fe fydden ni'n rhagweld y byddai hi'n brysur iawn arnon ni y penwythnos hwnnw."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 1,000 o fyfyrwyr yn byw yn Llanbedr Pont Steffan

Cafodd y newyddion groeso gan berchnogion rhai o siopau lleol Llanbed hefyd.

"Doedden ni ddim yn gwybod bod hwn yn digwydd nes nawr, ond ma' hwn yn beth enfawr i'r dref," meddai Angharad Williams o siop ddillad Duet/Lan Llofft.

"Mae'n gyffrous i fi fel unigolyn i gael cymaint o bobl yn dod i'r dre', ond hefyd i ni fel busnes ac i weddill y busnesau.

"Bydd e'n gr锚t i'r economi lleol, ac mae'n rhoi cyfle i bobl i weld Llanbed ar ei orau."

Tref gymunedol

Dywedodd Bethan Wyn, sy'n swyddog cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Drindod Dewi Sant y "bydd myfyrwyr yn y man yn ymweld 芒 busnesau'r dre' i'w hysbysu nhw o'r digwyddiad".

"Mae'r cyngor tref wedi bod mor gefnogol o'r syniad ers y cychwyn cyntaf, ac maen nhw wedi anfon eu dymuniadau gorau i'r eisteddfod," meddai.

"Bydd neges yn cael ei rannu yr wythnos hon gydag aelodau staff ar y campws a'r myfyrwyr yn eu hysbysu o'r digwyddiad, ac fe fydd posteri yn cael eu gosod o amgylch y lle cyn bo hir hefyd."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Ychwanegodd ei fod "wir yn gr锚t bod yr eisteddfod yn dod i'r dre', achos mae'n dref gymunedol iawn".

"Mae'n gampws hyfryd, ac mae Neuadd y Celfyddydau yn le hyfryd i gynnal yr eisteddfod," meddai Ms Wyn.

Dywedodd Llywydd y Gymdeithas Gymraeg, Ifan Thomas: "Yn 2013 cynhaliwyd yr eisteddfod ar ein campws yng Nghaerfyrddin ond eleni rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Geredigion a champws y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan.

"Mae'r penwythnos hwn yn cael ei ystyried fel un o'n prif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ac mae yna gyffro mawr yma yn ogystal 芒 llawer o waith trefnu!"

Bydd digwyddiadau'r penwythnos yn cloi gyda gig yn Undeb y Myfyrwyr ar y nos Sadwrn.