Athrawon Bro Hyddgen ar streic dros ddiswyddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae athrawon mewn ysgol ym Machynlleth wedi bod ar streic am ddiwrnod mewn protest yngl欧n 芒 diswyddiadau gorfodol.
Dywedodd undeb NASUWT fod gormod o bwysau ar staff Ysgol Bro Hyddgen yn barod, ac y byddai colli rhagor o swyddi yn ychwanegu at lwyth gwaith y rheiny fydd ar 么l.
Mae llywodraethwyr yr ysgol wedi penderfynu cyflwyno diswyddiadau gorfodol wedi i Gyngor Sir Powys ddweud fod angen gwneud arbedion.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys fod cyfrifoldeb ar yr ysgolion unigol i weithredu o fewn eu cyllidebau.
'Diffyg ariannu'
Roedd y brotest yn golygu mai dim ond disgyblion TGAU a Lefel A oedd yn gallu mynychu Ysgol Bro Hyddgen - sydd yn ysgol 4 i 18 oed - ddydd Mercher.
Fe wnaeth yr ysgol agor dair blynedd a hanner yn 么l wedi i ysgolion cynradd ac uwchradd y dref uno.
Ond ers hynny, meddai Geraint Davies o NASUWT, mae'r ysgol wedi wynebu "toriadau blynyddol", gyda rhai staff eisoes wedi gadael.
"Pan aethpwyd ati i uno y cynradd a'r uwchradd roedd 'na addewid pendant o gyfeiriad Cyngor Sir Powys y bydden nhw'n ariannu'r fenter yn llawn," meddai.
"Dyw hynny ddim wedi digwydd, ac felly mae'r streic yma'n brotest yn erbyn penderfyniad y llywodraethwyr a hefyd diffyg gweithredu a diffyg ariannu o ran Cyngor Sir Powys."
Mynnodd na fyddai'r streic undydd yn effeithio ar addysg y plant, ac y dylai'r ysgol efelychu rhai eraill yng Nghymru sydd wedi mynd i ddyled gyda'u cyllideb yn hytrach na chwtogi staff.
"Ry'n ni yma heddiw er mwyn diogelu safon addysg yn Ysgol Bro Hyddgen dros y blynyddoedd i ddod," ychwanegodd.
"All ysgol o'r maint yma... fyth wynebu colledion o safbwynt staff dysgu o flwyddyn i flwyddyn. Yn y diwedd mae hynny'n mynd i effeithio ar ddyfodol plant yr ardal yma, ac mae hynny'n anffodus."
Bwriad NASUWT a'u haelodau yw cynnal rhagor o ddyddiadau streic dros yr wythnosau nesaf, gan fynnu bod angen i'r llywodraethwyr "ailfeddwl".
Nid oedd aelodau undeb UCAC yn gweithredu'n ddiwydiannol ddydd Mercher, er bod rhai aelodau i'w gweld ar y llinell biced.
Yn 么l llefarydd ar ran UCAC: "Rydym yma er mwyn cefnogi ein cyd-athrawon, i rannu eu consyrn ac i fynegi anfodlonrwydd am ddiffyg cefnogaeth a thor-addewidion Cyngor Sir Powys wrth sefydlu ysgol newydd Bro Hyddgen."
Mae'r broses gaffael ar gyfer adeilad newydd Ysgol Bro Hyddgen yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac yn 么l Cyngor Powys mae angen iddyn nhw wneud arbedion o 拢17m i'w cyllideb dros y flwyddyn ariannol nesaf.
Ychwanegodd y cyngor fod cyfrifoldeb ar yr ysgolion i weithredu o fewn eu cyllidebau, a gwneud penderfyniadau anodd er mwyn cyflawni hynny.
"Fel pob ysgol ar draws Cymru mae rhan fwyaf y cyllid sy'n cael ei roi i ysgolion yn dibynnu ar nifer y dysgwyr," meddai Gareth Jones, pennaeth dros dro gwasanaethau ysgolion y cyngor.
"Mae niferoedd cynradd ac uwchradd yn yr ysgol wedi gostwng ers 2014/15, a chanlyniad hynny ydy gostyngiad yn lefel eu cyllid."