大象传媒

Gwrthwynebu adeiladu ar safle Ysgol gynradd Biwmares

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Biwmares

Mae'r rhai sy'n ymgyrchu yn erbyn cau Ysgol Gynradd Biwmares wedi eu cythruddo gan benderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys M么n i adeiladu tai gofal arbennig ar safle ar dir yr ysgol.

Mae'r Cyngor yng nghanol cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd yngl欧n 芒 dyfodol addysg gynradd yn ardal Seiriol ac mae cau ysgol Biwmares a symud y disgyblion i ysgolion cyfagos yn un dewis posib.

Ond yn 么l y rhai sy'n brwydro i gadw'r ysgol yn agored byddai'n well codi tai fforddiadwy ar y safle er mwyn denu rhagor o deuluoedd ifanc i'r ardal i ddiogelu dyfodol yr ysgol na chodi unedau gofal ychwanegol.

Er bod yna ysgol wedi bod ym Miwmares ers 1605, rhyw drigain mlynedd sydd yna ers i'r ysgol bresennol gael ei chodi. Mae yna le i 150 o blant yno ond rhyw ddeugain o ddisgyblion sydd yna a 10 yn yr uned feithrin.

Ergyd

Byddai'n costio yn agos i filiwn o bunnoedd i adnewyddu'r adeilad ac mae'r cyngor yn ystyried cau'r ysgol a symud y disgyblion i ysgol Llandegfan neu Ysgol Llangoed.

Mae'r ysgol ar safle pum acer, a dechrau'r wythnos penderfynodd Pwyllgor Gwaith Cyngor M么n godi unedau ar y safle i roi gofal ychwanegol i bobol oedrannus.

Yn 么l ymgyrchwyr mae hynny'n ergyd i'w hymdrechion i achub yr ysgol ac yn groes i ddymuniad y trigolion.

Dywedodd Rhian Jones cadeirydd Pwyllgor Ymateb Ymgynghoriaeth ysgol Biwmares eu bod nhw wedi ymgynghori'n lleol a bod 90% o'r rhai ddaru ymateb wedi gwrthwynebu codi'r unedau gofal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 90% o'r rhai ddaru ymateb i'r ymgynghoriad wedi gwrthwynebu codi'r unedau gofal yn 么l Rhian Jones

"Yn draddodiadol mae Biwmares wedi denu pobol sy'n ymddeol, ein pryder ni os ydi ysgol Biwmares yn cau a bod y tai gofal ychwanegol yn cael eu hadeiladu ar y safle ydi y bydd hyn yn gwaethygu.

"Dan ni'n gweld y bydd hi'n gwneud hi'n fwy anodd i bobol ifanc aros ym Miwmares ac ella y bydd rhaid i rai pobol ifanc symud o Fiwmares.

"Mae mwyafrif y tai preifat ym Miwmares y tu allan i allu pobol ifanc i'w fforddio"

'Ward yn rhanedig'

Yn 么l arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, tydi hi ddim yn hollol gywir i ddweud fod y penderfyniad i godi'r unedau gofal yn mynd yn groes i farn pobol leol.

"Be sydd wedi dod i'r amlwg ydi fod y ward yn rhanedig. Mae dau gyngor Cymuned sef cyngor Llanddona a Cyngor Cymuned Cwm Cadnant wedi dweud yn glir mai ardal Biwmares maen nhw yn ffafrio fel y safle gorau i godi tai gofal ychwanegol, ac mae Cyngor Tref Biwmares a chyngor Cymuned Llangoed yn dweud i'r gwrthwyneb.

"Mi gafodd ei gyfleu yn y Pwyllgor Gwaith ei fod o'n benderfyniad anodd ond hwn ydi'r penderfyniad gorau er mwyn cael y safle gofal ychwanegol gorau y gallwn ni i'r ardal," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, tydi hi ddim yn hollol gywir i ddweud fod y penderfyniad i godi'r unedau gofal yn mynd yn groes i farn pobol leol.

Ar fater effaith cymdeithasol cau'r ysgol dywedodd: "Mae niferoedd yn yr ysgol wedi gostwng yn aruthrol, yn debyg iawn i lot o ardaloedd eraill ym M么n, ac mae demograffeg yn newid ac mae hynny allan o'n dwylo ni fel awdurdod lleol.

"Mae rhaid i ni ymateb i'r newidiadau yna, a phan mae'n dod i addysg mae'n flaenoriaeth i ni fel pwyllgor gwaith roi'r cyfleon gorau fedrwn ni i blant M么n ac efallai bod rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd."

Mae'r drafodaeth yngl欧n 芒 dyfodol addysg yn yr ardal yn parhau a does yna ddim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer gwneud penderfyniad terfynol.