大象传媒

Deddf pris alcohol: Angen 'help' i'r rhai sy'n gaeth

  • Cyhoeddwyd
alcohol

Mae elusen yn rhybuddio fod angen opsiynau gwahanol i sicrhau help i bobl sy'n gaeth i alcohol pe bai deddf yn dod i rym yn gosod isafswm pris ar ddiodydd meddwol.

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn gosod isafbris o 50c yr uned.

Ond mae Alcohol Concern Cymru'n rhybuddio y bydd angen cefnogaeth i helpu adferiad unigolion sydd 芒'r problemau mwyaf difrifol gan eu bod yn aml yn prynu'r alcohol mwyaf rhad posib.

Daw'r alwad wedi i ymchwil ddangos bod 75% o'r holl alcohol sy'n cael ei yfed yng Nghymru yn cael ei yfed gan 22% o'r oedolion sy'n yfwyr "peryglus neu niweidiol".

Mater cymhleth

Mae'r adroddiad gan Gr诺p Ymchwil Alcohol Prifysgol Sheffield ar ran Llywodraeth Cymru'n dod i'r casgliad mai'r "yfwyr niweidiol mwyaf difreintiedig fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf gan isafbris uned - sef y grwpiau sydd yn y perygl mwyaf o ddioddef niwed yn sgil eu harferion yfed".

Hefyd mae'n dweud bod poblogaeth Cymru'n prynu 50% o'u halcohol am lai na 55c yr uned, 37% am lai na 50c yr uned, a 27% am lai na 45c yr uned.

"Rydyn yn gwybod ers cryn amser bod llawer o'r alcohol sy'n cael ei yfed yn y wlad yma yn cael ei yfed gan bobl lle mae alcohol yn broblem yn hytrach na phleser," meddai Andrew Misell, cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru.

Ffynhonnell y llun, PA

"Mae isafswm pris yn un ffordd o ddatrys y sefyllfa ond does dim iach谩u. Mae alcohol yn fater cymhleth. Mae pobl yn goryfed am bob math o resymau.

"Rydym yn gwybod o ddegawdau o dystiolaeth ar draws y byd mai'r ddau beth sy'n gyrru goryfed yw pris ac argaeledd.

"Mae mynd i'r afael 芒 phris alcohol yn ffordd dda o gael pobl i yfed llai.

"Pan ddaw'r mesurau yma i rym ac mae diodydd yn llawer iawn drytach neu'n fwy anodd eu cael, mae angen cael opsiynau i roi cymorth i'r rhai sy'n gaeth i alcohol."

Arbed bywydau

Mae pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol y Cynulliad yn casglu tystiolaeth ar y ddeddfwriaeth arfaethedig ar 么l cyhoeddi'r manylion ym Medi 2017.

Dan drefn isafbris o 50c yr uned, fe fyddai can arferol o seidr yn costio o leiaf 拢1, a photel o win yn o leiaf 拢4.69.

Byddai litr o fodca'n costio mwy na 拢20.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw'n fwriad i drefn isafbris weithio ar ben ei hun. Fe fydd yn rhan o - ac yn cyfrannu at - ein strategaeth ehangach i ddelio 芒 chamddefnyddio sylweddau.

"Fel y mae ein partneriaid iechyd cyhoeddus wedi dweud, fe fydd isafbris uned yn rhan hanfodol bwysig o'r jig-so. Mae hefyd yn un y mae'r dystiolaeth yn awgrymu fydd yn helpu arbed bywydau yn y pen draw."