大象传媒

'Angen gofalu am bobl fregus yn y tywydd oer'

  • Cyhoeddwyd
hen ddynFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i'r tywydd oer ddychwelyd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd i ofalu am bobl fregus.

Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn cael eu taro'n s芒l neu'n marw oherwydd oerfel - y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu taro yw henoed, plant ifanc a'r rhai sydd yn dioddef o glefydau cysylltiedig 芒'r galon neu'r ysgyfaint.

Dywedodd Huw Brunt ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Ry'n ni'n annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i gymryd gofal arbennig o ffrindiau a theulu a all ddioddef yn sgil yr oerfel.

"Gwnewch yn siwr eu bod o fewn cyrraedd bwyd a diodydd cynnes a'u bod yn cynhesu eu cartrefi yn ddigonol.

"Peidiwch 芒 mynd allan i'r oerfel os ydych yn debygol o gael salwch neu gwymp cysylltiedig 芒'r tywydd oer."

Ymhlith cynghorion tywydd oer eraill mae:

  • Ceisiwch sicrhau fod y tymheredd y tu mewn yn o leiaf 18掳C, yn enwedig os nad ydych yn symud rhyw lawer, neu os oes gennych salwch tymor hir neu'n 65 oed a throsodd;

  • Gwrandewch ar ragolygon y tywydd, sicrhewch bod gennych ddigon o fwyd a'r feddyginiaeth briodol;

  • Sicrhewch eich bod wedi hawlio budd-daliadau fel Taliadau Tywydd Oer a Thaliadau Tanwydd y Gaeaf.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud y gall y tywydd oer fod yn gyfrifol am achosion niferus o salwch a marwolaethau.

Gall y tywydd oer achosi hypothermia, cwympiadau ac anafiadau, medden nhw, yn ogystal 芒 thrawiad ar y galon, ffliw ac amrywiol glefydau resbiradol.

Maen nhw yn dweud hefyd y gall y tywydd oer achosi rhai pobl i fod yn isel ac y gallai rhai pobl ddioddef o wenwyn carbon monocsid am nad yw'r offer cynhesu neu'r boeler wedi cael y gwasanaeth angenrheidiol.

Mae disgwyl i'r tymheredd ddisgyn i'r rhewbwynt mewn mannau ddydd Llun.