Ydy'r celfyddydau yng Nghymru'n rhy gul?
- Cyhoeddwyd
Mae diffyg amrywiaeth o fewn y celfyddydau yng Nghymru yn gyrru talent i ffwrdd o'r wlad ac yn cyfyngu ar y gwaith 'dyn ni'n ei wneud.
Dyna farn Dr Emily Garside, sydd wedi bod yn cynnal gweithdai ar y pwnc yn ddiweddar. Mae'n dilyn penderfyniad National Theatre Wales i beidio mynychu seremoni Gwobrau Theatr Cymru yn gynharach eleni oherwydd diffyg amrywiaeth yr enwebiadau.
Ydy'r diffyg amrywiaeth yma - o ran dosbarth, rhyw, anabledd a chefndir ethnig - o achos bod y celfyddydau Cymreig, a'r mynediad iddo, yn cael ei reoli gan "bobl gul sydd ofn newid", fel mae Dr Emily Garside yn ei awgrymu?
Os ydyn ni'n onest gyda ni'n hunain, 'dyn ni'n gwybod bod y rhai sy'n gweithio o fewn y celfyddydau yng Nghymru yn teimlo eu bod nhw wedi'u creu gan bobl gul, ar gyfer pobl gul.
Mae'n na茂f i feddwl nad pobl wyn, ddosbarth canol (dynion yn aml) sy'n arwain ac yn creu yn y celfyddydau.
Mae 'na lawer o siarad am Gymru fel 'canolfan gelfyddydol', ac eto mae unrhyw un sy'n chwilio am yrfa yn y celfyddydau yma yn clywed bod rhaid 'symud i ffwrdd' i wneud eu marc.
Hyd yn oed os nad ydy rhywun yn dweud hynny wrthyn nhw'n uniongyrchol, i lawer, dyna'r unig opsiwn. Ac i'r rhai sydd ddim yn ffitio'r 'demograffeg arferol' mae'r gwthiad yn gymaint mwy.
Os nad yw'n unrhyw beth arall, mae'r gwthiad yma o Gymru yn niweidiol i'n cynnyrch artistig ni.
Mae'n rhaid inni weithio'n galetach ac yn hirach i gael cydnabyddiaeth i'n gwaith tu hwnt i Gymru fel mae hi; pam felly ein bod ni'n cyfyngu ein hunain drwy yrru ein talent gorau i ffwrdd?
Pam fod gan y gr诺p cul yma ar y top gymaint o ofn i bobl sy'n wahanol iddyn nhw gynhyrchu gwaith celfyddydol?
Yr ateb gonest yw bod ganddyn nhw angen hunanol i ddal gafael ar b诺er. A'u bod yn ofni teimlo dan fygythiad.
Pwynt arall hollbwysig sy'n aml yn cael ei anwybyddu yw bod amrywiaeth yn bwysig ymysg y gynulleidfa hefyd.
Mae cael gr诺p amrywiol o bobl yn gweithio yn y celfyddydau yn gorfod mynd law yn llaw ag amrywiaeth yn y bobl sy'n dod i weld cynyrchiadau.
Gwnewch gelfyddyd i'r bobl sy'n adlewyrchu eu byd nhw ac mi wnawn nhw ddod i'w weld a'i werthfawrogi.
Mae'r celfyddydau'n diodde' oherwydd os nad ydych chi'n cynhyrchu gwaith sy'n adlewyrchu cymdeithas, i bwy rydyn ni'n ei wneud? A pham ddylai pobl wario arian a threulio amser prin yn dod i'w weld?
'Ticio bocsys'
Mae cynrychiolaeth go iawn yn cymryd amser. 'Dyn ni wedi gwella yng Nghymru, mae gennym ni lawer o arweinwyr benywaidd yn ein sefydliadau.
Allwn ni wneud 'da mwy o fenywod yn cyfarwyddo, yn sgrifennu dram芒u ac yn chwarae'r prif rannau? Gallwn, wrth gwrs.
Ond mae'n lleisiau LGBTQA ni'n brin ac mae gennym ni broblem 'dosbarth' yn y celfyddydau.
Er gwaetha' ymdrechion i gynnwys mwy o leisiau o'r dosbarth gweithiol, mae'r lleisiau cryfaf a'r rhai sy'n dweud y straeon yn dal i fod yn bobl dosbarth canol ar y cyfan.
'Dyw llond llaw o gwmn茂au arbenigol yn rhoi artistiaid anabl ar lwyfan ddim yn ddigon. Na chwaith un person lliw bob yn ail gynhyrchiad a galw hynny'n "diverse casting".
'Dyw hi chwaith ddim yn ddigon i dicio'r bocsys yn y maes perfformio. Mae'n rhaid i'r gynulleidfa deimlo eu bod nhw'n rhan o'r byd yna hefyd.
Pam 'dyw'r dosbarth gweithiol ddim moyn dod i'ch canolfan chi? Pam 'dyw'r bobl o gymunedau Dwyrain Asia lleol byth yn dod i weld cynyrchiadau? A yw pobl drawsrywiol yn teimlo'n gyfforddus yn eich canolfannau?
Mae'n rhaid i bob canolfan ateb y cwestiynau yma. Ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny drwy ymwneud 芒'r grwpiau hyn a gwrando arnyn nhw.
Mae llawer o'r siarad o gwmpas sicrhau mwy o amrywiaeth yn y celfyddydau yn cael ei wneud gan bobl gyda bwriadau da ar y 'tu mewn' sy'n teimlo y dylen nhw wneud eu rhan i'r bobl ar y tu allan.
Mae digon o bobl yn barod am newid, ac yn gwneud newidiadau yn barod. Ond er mwyn cael newid 'go iawn' o ran arweinyddiaeth mae'n rhaid i hynny ddod o'r top.
Mae pobl Cymru sy'n gweithio o fewn y celfyddydau wedi dechrau gweiddi am newid - ond does neb yn gwrando.
Eisteddwch o gwmpas y bwrdd gyda'r bobl mae hyn yn effeithio arnyn nhw, edrychwch i fyw eu llygaid a d'wedwch eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu. Yna gwnewch e.
Os nad yw'r celfyddydau wir yn perthyn i'r elite.