大象传媒

'Cwmni lob茂o'n gwybod ynghynt am ddiswyddo Carl Sargeant'

  • Cyhoeddwyd
Carl SargeantFfynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw bedwar diwrnod wedi iddo golli ei swydd yn y cabinet

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod cwmni lob茂o wedi pasio gwybodaeth am ddiswyddo Carl Sargeant i newyddiadurwyr cyn iddo ddigwydd.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Andrew RT Davies mai unigolyn o gwmni Deryn oedd wedi darparu'r wybodaeth.

Roedd Mr Davies yn siarad yn ystod dadl yn galw ar y llywodraeth i gyhoeddi adroddiad am yr amgylchiadau wnaeth arwain at ddiswyddo Mr Sargeant.

Cafodd cynnig y gwrthbleidiau ei basio wedi i'r llywodraeth ymatal, ond doedd y bleidlais ddim yn un gorfodol.

'G锚m wleidyddol'

Fe wnaeth ymchwiliad gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Shan Morgan ganfod "nad oedd gwybodaeth wedi ei rannu'n answyddogol o flaen llaw" am yr ad-drefnu.

Roedd yr ymchwiliad yn edrych ar a oedd gwybodaeth am ddiswyddo Mr Sargeant wedi ei ollwng o flaen llaw.

Dywedodd Arweinydd y T欧, Julie James y byddai cynnwys yr adroddiad yn cael ei roi i Paul Bowen QC sydd yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Mr Sargeant.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Andrew RT Davies fod angen deall y "rhesymeg" tu 么l i gasgliad adroddiad yr ysgrifennydd parhaol

Ddydd Mercher dywedodd Mr Davies wrth ACau ei fod yn ymwybodol fod ymchwiliad Ms Morgan wedi derbyn tystiolaeth gan "aelod blaenllaw o lywodraeth blaenorol" fod Deryn wedi darparu gwybodaeth "sbel cyn cyhoeddi'r ad-drefnu yn dweud y byddai Carl Sargeant yn colli ei swydd".

Ychwanegodd bod yr AC Llafur, Lee Waters wedi derbyn neges destun yn dweud rhywbeth tebyg gan ffynhonell sydd heb eu datgelu.

Dywedodd Mr Waters na ddylai'r adroddiad gael ei gyhoeddi gan y gallai beri risg o adnabod pobl oedd wedi rhoi tystiolaeth yn anhysbys.

"Mae'r menywod wedi cael eu hanghofio yn hyn," meddai.

"Fyddwn ni nawr fyth yn gallu profi eu honiadau mewn ffordd deg. Dyw hynny ddim yn deg arnyn nhw na Carl.

"Ond o leiaf beth am beidio gwneud y sefyllfa'n waeth wrth fygwth, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, eu hawl nhw i anhysbysrwydd.

"Mae'r holl drasiedi wedi troi yn g锚m wleidyddol, a dwi ddim eisiau unrhyw ran ynddo."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mynnodd Lee Waters na fyddai'n cymryd rhan yn y "g锚m wleidyddol"

Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar y dylai Ms Morgan gael ei holi gan ACau er mwyn iddyn nhw allu cael hyder yn y broses.

"Mae angen i ni ddeall sut gafodd y wybodaeth yna ei ryddhau'n gyhoeddus cyn i'r bobl gafodd eu diswyddo o'r cabinet wybod am y peth," meddai.

Dywedodd Ms James y gallai cyhoeddi'r adroddiad ragfarnu ymchwiliadau eraill oedd eisoes ar y gweill.

"Mae [Ms Morgan] wedi cadarnhau y bydd copi o'r adroddiad ar ollwng gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i'r QC [Paul Bowen] sydd yn cynnal yr ymchwiliad annibynnol," meddai.

"Dyna'r broses gywir i'w ddilyn ar y mater yma yn ein barn ni."

Mae Deryn wedi cael cais am ymateb.

Ymchwiliadau

Cafodd y bleidlais ar y mater ddydd Mercher ei galw gan Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr am eu bod nhw eisiau rhagor o wybodaeth am sut cafodd yr ymchwiliad ei gynnal.

Roedd y cynnig yn pwysleisio y dylid atal enwau unigolion wrth gyhoeddi'r adroddiad er mwyn eu gwarchod.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n "gwbl anaddas datgelu gwybodaeth sy'n cynnwys datganiadau cyfrinachol gan unigolion cysylltiedig 芒'r ymchwiliad".

Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo yn dilyn honiadau am ei ymddygiad tuag at fenywod.

Ar y pryd, dywedodd ei fod yn gwadu unrhyw honiadau yn ei erbyn ac y byddai'n ymladd i glirio'i enw.

Bellach, mae Paul Bowen QC wedi cael ei benodi i gadeirio ymchwiliad i'r modd y deliodd Mr Jones 芒 diswyddiad Mr Sargeant.

Bydd yr erlynydd arbennig o Iwerddon, James Hamilton, hefyd yn ymchwilio i honiadau bod y prif weinidog wedi camarwain y Cynulliad wrth ateb cwestiynau am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.