Y straen a'r stigma o groen sbotiog
- Cyhoeddwyd
Mae oedolion sy'n dioddef o gyflyrau croen gwael yn gallu wynebu stigma ac iselder meddai'r actores Elen Morgan, sy'n actio Llio ar gyfres sebon Rownd a Rownd, ac wedi dioddef o groen sbotiog ers blynyddoedd.
Mae Elen wedi dechrau sy'n croniclo ei thaith i geisio gwella ei chroen, taith sy'n gallu bod yn anodd ac unig iawn, meddai.
"Ar y dechrau ro'n i'n teimlo cywilydd, yn enwedig oherwydd fy mod i allan o fy arddegau, sef yr oedran pan mae sbotiau'n cael ei gyfri'n normal," meddai Elen sydd heb gael croen hollol glir ers iddi fod yn 16 oed.
Dros y bedair blynedd diwethaf mae'r croen wedi bod ar ei waethaf, meddai Elen Morgan sy'n credu bod cael sbotiau'n effeithio ar berson yn fwy na beth maen nhw'n meddwl.
"Mae pethau bach fel rhoi colur arno cyn gadael y t欧 yn rhoi straen," meddai.
"Os nad ydy'r colur yn glynu'n iawn, neu ddim yn edrych yn iawn, rhaid tynnu'r cyfan bant, a dechrau eto, ac eto, tan eich bod chi'n hapus. Ac wrth gwrs yn y cyfamser ry'ch chi'n gallu mynd yn rhwystredig iawn, a diflasu."
Mae hyd yn oed yn teimlo bod cael y sbotiau yn gwneud iddi deimlo'n isel, meddai, yn enwedig pan maen nhw ar eu gwaethaf.
"Dw i'n isel iawn pan dw i'n cael flare-ups. Ond dw i'n trio peidio meddwl gormod am hyn, er mor anodd yw hynny weithiau," meddai.
"Mae cymaint o bwysau y dyddiau yma i bobl edrych yn 'berffaith', ac mae yna lot o ffilters ac aps ar gael fel eich bod chi'n dechrau teimlo mai dyna beth sy'n 'normal'.
"Ond mewn gwirionedd, mae'n hollol anghywir ac annaturiol."
Ara' bach mae lleddfu sbotiau
Dros y blynyddoedd mae Elen Morgan wedi trio tipyn o bethau er mwyn lleddfu'r sbotiau, meddai, gyda'r gobaith o wella'n llwyr.
"Wrth gwrs, mae trio lot o bethau'n golygu fy mod wedi gwario lot fawr o arian. Mae'r tabledi dw i'n eu cymryd nawr yn sychu'r croen, felly ar hyn o bryd dw i'n defnyddio cynnyrch at groen sensitif ac sy'n llaith iawn," meddai.
"Dw i wedi bod ar dabledi ers dau fis bellach, ac yn araf mae yna newidiadau bach i'r croen, ond mae'n broses hir a bydd y newidiadau ddim yn gwbl amlwg tan i fi gyrraedd diwedd y driniaeth."
"Mae'r tabledi yma yn gryf iawn, gyda sgil effeithiau helaeth."
Codi llais
"Mae siarad yn agored wedi gwneud i mi sylweddoli cymaint o bobl eraill sy'n dioddef," meddai Elen wedi iddi rannu ei phrofiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Yn bendant, mae yna stigma'n perthyn i sbotiau, ond ar lefel mwy personol, dw i wedi siarad gyda chymaint o bobl yn ddiweddar nad oedd yn sylweddoli fy mod i'n dioddef gyda fy nghroen.
"Mae'r stigma, dw i'n teimlo, yn perthyn i ni, y rhai sy'n dioddef. Hynny yw, ein bod ni'n teimlo ei fod yn rhywbeth sydd angen ei guddio. Ac mae hynny'n drist iawn."
Cuddio ac embaras
Fel Elen Morgan, mae Kelly Morgan sy'n wreiddiol o Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn dioddef o groen gwael a sbotiau ers diwedd ei harddegau hefyd.
Mae pethau wedi bod ar eu gwaethaf iddi dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.
"Fy nghefn sydd waethaf," meddai Kelly Morgan, sy'n gweithio mewn meithrinfa i blant ac yn rhedeg ei busnes i hun.
"Dw i wastad wedi cael croen sych ac ambell sbot ar fy wyneb amser y mis ond dim byd mor ddifrifol 芒 fy nghefn.
"Mae'n gallu bod yn embaras llwyr, yn enwedig os ydw i'n nofio neu'n mynd ar wyliau ac ati. Ond mae hefyd yn effeithio fy mherthynas gyda fy nghariad."
Rhaid iddi brynu ffrogiau i guddio ei chefn a gofalu beth mae hi'n ei wisgo, meddai Kelly, ac mae rhai dyddiau yn fwy poenus nag eraill.
"Mae'n anodd iawn cysgu ar fy nghefn gyda'r nos. Rhaid cyfaddef, dw i'n gallu teimlo'n isel, yn enwedig wrth weld croen merched eraill sy'n llyfn.
"Mae hefyd yn rhwystredig pan nag oes unrhyw beth yn gweithio ar y sbotiau, neu pan dw i wir eisiau gwisgo rhywbeth, ond mae'n brifo neu'n datgelu gormod o fy nghefn."
Araf yw'r broses o'u trin, meddai, ond mae hi'n gobeithio y bydd pethau'n gwella er mwyn gallu mwynhau'r haf a pheidio teimlo embaras wrth ddangos ei chorff.
Stori: Llinos Dafydd