Injan newydd Toyota i'w chynhyrchu yng Nglannau Dyfdrwy
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni ceir Toyota wedi cyhoeddi y bydd mwyafrif injanau'r Toyota Auris newydd yn cael eu cynhyrchu yn ei ffatri ar Lannau Dyfrdwy.
Mae'r cyhoeddiad yn newyddion yn diogelu 3,000 o swyddi ar ddau safle'r cwmni yng Nglannau Dyfrdwy a Sir Derby.
Daw'r cyhoeddiad wedi penderfyniad Toyota Motor Europe (TME) i fuddsoddi dros 拢240m ar eu safleoedd yn y DU.
Bydd yr Auris newydd yn cael ei ddangos am y tro cynta yn Sioe Foduro Genefa ar 6 Mawrth.
Dywedodd Dr Johan van Zyl, un o benaethiaid Toyota yn Ewrop bod y penderfyniad yn adlewyrchiad o'u "hyder yn sgiliau a gallu" eu gweithwyr yn y DU.
"Gyda tua 85% o'r cerbydau sy'n cael eu cynhyrchu yn y DU yn cael eu hallforio i'r farchnad Ewropeaidd, mae masnach rydd, esmwyth rhwng y DU ac Ewrop yn hanfodol i'n llwyddiant yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd1 Awst 2017