大象传媒

Brexit: Theresa May yn gwadu 'chwalu cyfansoddiad Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Theresa May

Mae Theresa May wedi gwadu y bydd ei chynlluniau ar gyfer Brexit yn chwalu cyfansoddiad Cymru.

Dywedodd wrth ASau y byddai'r "rhan fwyaf" o bwerau'r UE mewn meysydd datganoledig yn mynd yn syth i lywodraethau datganoledig.

Ychwanegodd y prif weinidog ei bod hi'n gwneud synnwyr i bwerau "yn ymwneud 芒'r DU gyfan" barhau i gael eu cadw ar draws y DU.

Ond dywedodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards fod Cymru wedi pleidleisio saith blynedd yn 么l dros sofraniaeth ddeddfwriaethol llawn mewn meysydd datganoledig.

'Gwladwriaeth gaeth'

Yn sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Mrs May nad oedd angen y "mesurau dilyniant" mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi'u cyflwyno er mwyn ceisio atal San Steffan rhag "cipio pwerau".

Dywedodd Mr Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Er y consesiynau ymddangosiadol yn araith y dirprwy brif weinidog de facto [David Lidington] yr wythnos hon, byddai'r Bil Ymadael yn cymryd gordd i gyfansoddiad Cymru."

Ychwanegodd: "A'i realiti yw, dan eich cynlluniau chi ar gyfer Brexit Britannia, y byddai Cymru'n wlad oedd yn derbyn rheolau, yn wladwriaeth gaeth?"

Yn ei hymateb dywedodd Mrs May: "Rydych chi'n anghywir yn beth 'dych chi'n ei ddweud am beth ry'n ni'n cynnig o ran y sefydliadau datganoledig.

"Fe fyddwn ni'n datganoli llawer mwy o bwerau i'r sefydliadau datganoledig.

"Mae'n rhywbeth mae'r llywodraeth hon eisoes wedi gwneud yn ddiweddar gyda Mesur Cymru. Rydyn ni wedi gweld pwerau newydd yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.

"Rydyn ni'n hollol glir ein bod ni eisiau i'r rhan fwyaf o'r pwerau sy'n dychwelyd o Frwsel ddechrau yng Nghaeredin, Caerdydd a Belfast - nid yn Whitehall.

"Ond rydyn ni hefyd yn glir, pan mae pwerau'n ymwneud 芒'r DU gyfan, ei bod hi'n gwneud synnwyr i ni sicrhau eu bod yn parhau i fod yn weithredol ar draws y DU gyfan yn yr un ffordd."

'Cam ymlaen'

Yn gynharach dywedodd Mrs May wrth arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i newid cymal dadleuol yn eu deddfwriaeth Brexit oedd yn cael ei weld fel un oedd yn cyfyngu ar y cyrff datganoledig.

Dywedodd fod Mr Lidington wedi cyfarfod gweinidogion o Gymru a'r Alban er mwyn trafod pwerau pellach allai gael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r gwledydd hynny.

"Roedd hynny'n gam mawr ymlaen," meddai Mrs May.

Dywedodd Mr Blackford fodd bynnag: "Dydy hi ddim yn syndod fod llywodraethau'r Alban a Chymru yn cyflwyno mesurau dilyniant er mwyn atal San Steffan rhag cipio p诺er."