Elis-Thomas: 'Nid dyma'r amser' i ddatganoli darlledu
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog diwylliant wedi dweud "nad dyma yr amser" i ddatganoli'r pwerau dros ddarlledu i Gymru.
Roedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn ymateb i ddadl Plaid Cymru ar y pwnc.
Galwodd Sian Gwenllian AC ar ran Plaid Cymru am "ymrwymiad i ymchwilio i ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru, gan adrodd yn 么l i'r Cynulliad o fewn blwyddyn".
Dywedodd bod "cyfnod o ansicrwydd ac anghydfod oherwydd Brexit" yn golygu bod angen datganoli darlledu i "sicrhau bod gan Gymru lais".
"Mae cyfuniad o ddiffyg amrywiaeth yng nghyfryngau Cymru, a dirywiad mewn oriau darlledu, yn rhwystro dadleuon gwleidyddol ac felly yn rhwystro democratiaeth," meddai.
'Hollol glir'
Er i'r Arglwydd Elis-Thomas gefnogi rhai elfennau o'r polisi yn gyhoeddus yn y gorffennol, fe wrthwynebodd y ddadl yn y Senedd.
Dywedodd: "Dwi am wneud yn hollol glir fy mod i'n parhau o'r farn, yn bersonol ac fel gweinidog a'm mhrofiad i yn y pedwar mis, pum mis diwethaf yma, nad dyma yr amser i ddechrau s么n am ddatganoli rhan o ddarlledu, neu unrhyw ran o ddarlledu, i Gymru fel rhan o ddatblygu'r setliad datganoli."
Ychwanegodd bod y drefn reoleiddio eang sy'n bodoli yn barod wedi cefnogi twf darlledu: "Mae'r diwydiant yna o reidrwydd yn ddiwydiant sydd wedi gweithredu a datblygu nid yn unig trwy reoleiddio yn y Deyrnas Unedig ond drwy reoleiddio ar lefel ryngwladol."
Yn 么l yr aelod Ceidwadol, Suzy Davies, ni fyddai trosglwyddo pwerau darlledu yn delio 芒 materion fel pryderon am gyllideb S4C, gan arwain at "ddim mwy na llywodraeth wahanol yn dweud bod eu cynnig nhw yn ddigon".
Ychwanegodd: "A fyddai datganoli darlledu yn ein helpu ni i ddeall ein gwlad ddatganoledig yn well? Wel, dwi ddim yn si诺r.
"Yr hyn a welaf ar hyn o bryd yw Cymru sydd dal i ddim ei ddeall yn llawn ar 么l 19 mlynedd.
"Ai hynny oherwydd bod ein darlledwyr yng Nghymru yn camarwain neu gam-gynrychioli yr hyn sydd yn digwydd yma? Wel, ni chredaf felly."
Yn ddiweddar mae penaethiaid y 大象传媒 wedi ymddangos gerbron pwyllgorau Cynulliad i esbonio gwaith y darlledwyr, ac i ymateb i bryderon am bortread Cymru ar sgrin.
Bu cynrychiolwyr ITV, S4C, radio lleol a'r rheoleiddiwr Ofcom hefyd yn wynebu craffu gan ACau.
Dadl yr Arglwydd Elis-Thomas oedd bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu fwy o atebolrwydd gan y sector.
"Mi fuon ni yn gweithio'n galed fel llwyodraeth i sicrhau bod siarter newydd y 大象传媒 yn rhoi mandad i'r 大象传媒 i gyflawni llawer mwy i bobl Cymru.
"Mae gan y 大象传媒 bellach atebolrwydd priodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Ac wrth i ninnau fel llywodraeth baratoi i benodi aelod o fwrdd Ofcom i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf erioed, rydan ni'n ymwybodol bod y trefniadau yma yn agor y ffordd i ni gael dylanwad gwirioneddol fel Llywodraeth Cymru ar strwythur cyfathrebiadau yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018