大象传媒

Achos llofruddiaeth: 'Ymosod yn filain gyda chyllell'

  • Cyhoeddwyd
Laura StuartFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Laura Stuart

Mae rheithgor mewn achos llofruddiaeth wedi clywed i ddyn o Ddinbych ymosod yn filain gyda chyllell cegin ar ei gyn-bartner ar 么l aros iddi ddychwelyd ar 么l noson allan.

Yn 么l yr erlyniad, fe wnaeth Jason Liam Cooper, 28 oed, hefyd drywanu dyn aeth i geisio rhoi cymorth i'r ddynes.

Mae Mr Cooper, o Teras St Hilary, yn gwadu llofruddio Laura Jayne Stuart, 33 oed, mam i ddau yn dilyn digwyddiad yng nghanol Dinbych fis Awst y llynedd.

Mae hefyd yn gwadu anafu David Roberts gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd David Elias QC ar ran yr erlyniad, fod y diffynnydd yn ymddangos yn bwyllog wedi'r ymosodiad ar 12 Awst a'i fod wedi anfon neges destun i ffrind yn dweud: "Dwi newydd lofruddio Laura."

Yn 么l Mr Elias fe wnaeth hefyd wneud cyfaddefiad i'r heddlu gan ddweud: "Mae yna reswm am hyn. Roedd hi'n meddwl ei bod am fyw ei bywyd fel y mynnai, gadael fi ac y byddai hi yn hapus gwneud fel oedd hi eisiau.

"Wel nid felly tra mod i o gwmpas."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clywodd y llys fod yr ymosodiad wedi digwydd yng nghanol tref Dinbych

Dywed yr erlyniad ei fod wedi anfon nifer o negeseuon bygythiol i Ms Stuart yn dweud ei fod o'n ddig iawn, gan ofyn iddi a oedd hi yn wirioneddol yn "credu y byddai'n cerdded i ffwrdd o'r sefyllfa yn hapus?".

Clywodd y llys fod y ddau wedi bod mewn perthynas am ychydig o flynyddoedd ond fod yr heddlu wedi cael eu galw ar fwy nac un achlysur.

Aeth Ms Stuart i'r orsaf heddlu i gwyno am Mr Cooper wedi iddi dderbyn nifer o negeseuon testun bygythiol ganddo.

Ond gadawodd yr orsaf cyn iddi wneud cwyn ffurfiol, a honnwyd yn y llys fod Mr Cooper wedi disgwyl iddi ddychwelyd adref cyn ei llofruddio.

Mae Mr Cooper yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae disgwyl i'r achos bara tua phythefnos.