Ymosodiad Dinbych: Tystiolaeth dyn a gafodd ei drywanu

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Laura Stuart ym mis Awst y llynedd

Mae dyn a gafodd ei anafu wrth iddo geisio helpu dynes a oedd yn cael ei thrywanu ar y stryd yn Ninbych wedi bod yn disgrifio'r foment y gwnaeth yr ymosodwr honedig daro.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug bu David Roberts yn dweud sut y bu iddo ymyrryd pan yr ymosododd Jason Cooper ar ei gyn-gariad Laura Stuart wrth iddi adael tafarn yn Ninbych y llynedd.

Cafodd Mr Roberts ei drywanu nifer o weithiau a bu farw Ms Stuart ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.

Mae Mr Cooper 28 oed o Ddinbych yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o anafu'n fwriadol gan achosi niwed corfforol difrifol.

Dywedodd Mr Roberts ei fod yn gadael tafarn y Golden Lion gyda Ms Stuart a'i thad ar 12 Awst y llynedd pan welodd Mr Cooper yn rhedeg tuag atynt.

Dywedodd: "Roedd ganddo gyllell yn ei law dde ac yn gweiddi ac yn sgrechian.

"Roeddwn yn gallu gweld ei bod yn rhyw fath o gyllell cegin."

Clywodd y llys fod Ms Stuart wedi dechrau rhedeg i ffwrdd ond bod Mr Cooper wedyn wedi'i chyrraedd ac wedi dechrau ei thrywanu a'i chicio tra'r oedd hi'n gorwedd ar y llawr.

Dywedodd Mr Roberts ei fod wedi ceisio ei dynnu i ffwrdd ond ei fod wedi cael ei drywanu yn ei ysgwydd, ei benelin a'i glust ac o ganlyniad wedi dioddef anhwylder ar ei ysgyfaint.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Digwyddodd yr ymosodiad yng nghanol tre Dinbych

Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn ymosod ar Ms Stuart, honnir i Mr Copper ddweud gyda gw锚n ar ei wyneb: "Dywedais wrthych y byddwn yn gwneud hyn".

Dywedodd Mr Roberts, a oedd yn adnabod y cwpwl ers nifer o flynyddoedd, wrth y rheithgor: "Roedd e [Mr Cooper] yn ymddangos yn flin iawn tuag at Laura.

"Doedd e wir ddim yn ei hoffi hi. Roedd e am sicrhau nad oedd neb arall yn ei hoffi hi."

Ddiwrnodau cyn yr ymosodiad, dywedodd Mr Roberts ei fod wedi derbyn negeseuon gan Mr Cooper a oedd yn ei boeni a'i fod wedi ei gynghori i weld meddyg.

Clywodd y llys bod un neges yn dweud: "Ni all yr un person rwystro'r hyn dwi'n ei wneud" ac "mae un person neu ddau yn mynd i'w chael hi".

Ysgrifennodd hefyd: "Bydd yr hyn dwi'n ei wneud yn cael ei gyfiawnhau" a dywedodd ei bod "yn mynd i gael ei gwared".

'Cicio fel petai'n cymryd cic gosb'

Clywodd y llys hefyd dystiolaeth gan Gareth Roberts - tad David Roberts.

Fe gafodd Gareth Roberts hefyd ei anafu yn yr ymosodiad.

Dywedodd wrth y llys: "[Fe giciodd Mr Cooper Ms Stuart] fel petai'n cymryd cic gosb mewn g锚m gynghrair".

Ychwanegodd Mr Gareth Roberts fod popeth wedi digwydd mor sydyn a'i fod wedi gweld Mr Cooper yn trywanu Ms Stuart o leiaf dair gwaith.

Mae'r achos yn parhau.