大象传媒

Dros 1,000 o gartrefi yn parhau heb gyflenwad d诺r

  • Cyhoeddwyd
casglu dwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Poteli d诺r yn cael eu dosbarthu ym Mlaenau Ffestiniog

Mae dros 1,000 o gartrefi yn parhau heb gyflenwadau d诺r ar 么l i bibellau dorri yn sgil effeithiau'r tywydd garw.

Dywed D诺r Cymru eu bod yn ceisio mynd i'r afael 芒 phroblemau yng Ngwynedd, Sir Benfro ac Ynys M么n.

Ar raglen Good Evening Wales a 大象传媒 Radio Wales brynhawn dydd Mawrth, dywedodd Prif Weithredwr D诺r Cymru, Pete Perry, bod y cartrefi sy'n parhau heb dd诺r yn tueddu i fod mewn "cymunedau ynysig".

Disgrifiodd y sefyllfa fel "digwyddiad mawr" ac ymddiheurodd i gwsmeriaid sydd wedi wynebu anhawsterau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd prif weithredwr D诺r Cymru, Pete Perry bod y cartrefi sy'n parhau heb dd诺r yn tueddu i fod mewn "cymunedau ynysig".

"Mae'r heriau nawr mewn ardaloedd gwledig, lle mae gyda ni brif bibellau hir iawn", meddai, gan egluro fod yna nifer o dyllau i'w trwsio, ond nad oes digon o ddwr yn y system i ddod o hyd i'r holl fannau sy'n gollwng.

Mae rhai wedi cwyno am yr oedi cyn iddyn nhw dderbyn cyflenwadau o dd诺r potel, ond dywedodd Mr Perry fod cyrraedd rhai mannau wedi bod yn anodd: "Mae cael mynediad wedi (i rai ardaloedd) bod yn broblem fawr a dyna pam nad ydyn ni wedi gallu dosbarthu d诺r potel mor gyflym 芒 phosib.

"Byddwn yn gweithio'n ddi-baid i geisio datrys hyn."