大象传媒

Rhybudd arall am eira i rannau mawr o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daw'r rhybudd melyn lai nag wythnos wedi'r eira trwm

Mae rhybudd melyn am eira wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer rhannau mawr o Gymru, lai nag wythnos wedi'r tywydd difrifol wnaeth achosi trafferthion.

Pan oedd rhybudd coch mewn grym ddiwedd yr wythnos ddiwethaf cafodd nifer o ysgolion eu cau a bu trafferthion ar y ffyrdd.

Mae'r rhybudd diweddaraf yn berthnasol i ogledd, canolbarth a de-ddwyrain Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod disgwyl i'r eira ddisgyn ar dir uchaf yn bennaf, ond gall peth ddisgyn ar dir is gan effeithio ar ffyrdd a rheilffyrdd.

Mae'r rhybudd yn weithredol o hanner nos nes 11:00 ddydd Iau ac mae'r rhagolygon yn dweud bod disgwyl i 5cm o eira ddisgyn ar dir uwch na 200m a 10cm ar ffyrdd sydd 300m yn uwch na'r m么r.

Ddydd Mercher roedd oddeutu 100 o gartrefi yn parhau heb dd诺r wedi i eira yn dadmer achosi pibau i fyrstio.

Ddechrau'r wythnos roedd dros 6,000 o gartrefi heb dd诺r.