大象传媒

Y ddau frawd a'u gyrfa ar y sgr卯n

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor o Gaerdydd, Tom Rhys Harries yn gwneud enw iddo'i hun ym myd ffilm, teledu a'r theatr yn Llundain.

Nos Sul, enillodd wobr yr Actor Cynorthwyol Gorau yng Ngwobrau Offies 2018 am gynhyrchiad theatr a bydd yn ymddangos mewn ffilm newydd yn ddiweddarach eleni.

Roedd nos Sul yn noson fawr i'w frawd Gruff Harries hefyd. Roedd yn ymddangos yn y gyfres Parch ar S4C am y tro cyntaf, gan ddechrau ar ei yrfa fel actor.

Maen nhw'n siarad am eu gyrfa a'u perthynas fel dau frawd:

"Wnes i ennill Best Supporting Actor yng Ngwobrau Offies 2018 am ddrama nes i o'r enw The Pitchfork Disney flwyddyn dwetha," meddai Tom Rhys Harries o'i gartref yn Llundain.

"Dros y misoedd nesa' dwi'n ffilmio cyfres o'r enw Unforgotten ar gyfer ITV, ac mae gen i ffilm yn dod allan ym mis Medi, Slaughterhouse Rulez, lle dwi'n chware bad guy ynddo fe.

"Ffilm newydd Simon Pegg a Nick Frost ydy e, so mae'n rhyw fath o gomedi a dwi'n chware boi really posh Saesneg, oedd yn ddiddorol iawn achos dwi'n riff raff o Gaerdydd sy'n Welsh Nationalist!"

Ffynhonnell y llun, Tom Rhys Harries
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tom Rhys Harries

'Ni eisiau siglo pethe i fyny dipyn bach'

"Dwi'n byw yn Llundain efo Sion Alun Davies [yr actor oedd yn chwarae rhan DS Owen Vaughan yn Craith ar S4C] ers rhyw bedair blynedd ac mae fy nghefnder i, Jacob, yn actor hefyd, ac yn byw yn Llundain."

Gyda Jacob Ifan yn serennu yn Bang ar S4C y flwyddyn ddiwethaf a Sion Alun Davies wedi chwarae un o'r prif rannau yn Craith yn ddiweddar, mae'r tri actor ifanc wrthi'n ysgrifennu cyfres ddrama, gyda'r bwriad o "siglo pethau" a'i chyflwyno i S4C.

"Sdim lot o control creadigol gen ti fel actor, hyd yn oed pan ti yn gweithio, ti ar ddiwedd y broses.

"Fi, Sion a Jacob yn sgwennu drama ddwyieithog a'r bwriad yw siarad 芒 S4C. Ni eisiau siglo pethe i fyny dipyn bach.

"Drama o gwmpas y s卯n roc Gymraeg ydy e, mae 'na gymaint o egni o gwmpas y s卯n ar y funud a ni eisiau trio cyfleu hwnna a rhoi fe mewn cyfres.

"Fi 'di bod yn ffodus yn fy ngyrfa i mor belled 芒 hyn. Mae'n fraint i allu cael cyfle i fod yn greadigol a gwneud bywoliaeth mas ohono fe ond fel freelance mae'n rhaid i ti wneud bach o bopeth."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gruff yn chwarae rhan Dafydd yn Parch

Mae Gruff, sy'n 21 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yn ymddangos yn ei r么l deledu gyntaf fel y cymeriad Dafydd yn Parch, ac yn gobeithio am yrfa yn y byd actio.

Mae cael brawd h欧n sy'n llwyddo yn y maes yn help mawr, meddai.

"Roedd Tom yn role model da. Roedd wastad yn gwneud peth ei hunan, roedd e'n eitha annibynnol o berson, oedd e'n eitha si诺r o'i hunan, roedd yn beth da i fi gael rhywun fel fe oedd yn glir o beth oedd e eisie'i wneud.

"Fi'n credu ei fod wedi helpu fi, jyst gan bod Tom wedi mynd mewn i'r byd actio yn gyntaf. Pan ti'n dweud wrth dy rieni dy fod ti eisie bod yn actor mae'n eitha' anodd eu cael nhw ar dy ochr di, ond os oes gen ti frawd sydd yn yr un math o faes, mae dipyn bach yn haws!

"Fi'n agos i Tom. Dwi'n aros gyda fe pan dwi'n mynd lan i glyweliadau yn Llundain a mae'n help aruthrol i fi yn mynd dros darnau gyda fi. Ma' gyda fi berthynas dda gyda fe, sy'n lyfli.

"Rydyn ni'n deulu eitha' creadigol. Mae fy chwaer Beca yn greadigol hefyd, mae'n peintio ac yn gwerthu cardiau ac yn gweithio yng Nghanolfan y Mileniwm.

Ffynhonnell y llun, Gruff Harries
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gruff, Tom a'u chwaer Beca

"Mae'r cymeriad [yn Parch] yn dod mewn a mas trwy gydol y gyfres, ac mae'n eitha c诺l eu bod nhw wedi rhoi trust yndda i fel actor i ddod mewn i rhywbeth sy' wedi bod ymlaen ers tair cyfres. Mae'n hwyl a lot o ochrau gwahanol i'r cymeriad hefyd.

"Dwi 'di mwynhau actio erioed, ond oedd gen i athro drama ardderchog yn Ysgol Gyfun Plasmawr, wnaeth fy annog i."

Gwnaeth Gruff gwrs sylfaen ar 么l gadael yr ysgol ac mae wedi bod ar gyrsiau actio ar benwythnosau yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd, ers hynny a chymryd rhan mewn cynyrchiadau llwyfan.

"Fi'n trio am lefydd mewn colegau drama y flwyddyn hyn felly cawn ni weld lle fyddai'n mynd nesa'," meddai.

Roedd Tom yn seremoni wobrwyo'r Offies nos Sul pan oedd ei frawd Gruff yn ymddangos yn y gyfres Parch ar S4C.

"O'n i'n ffonio Gruff yn dweud wrtho 'recordia dy scenes di a danfon nhw i fi ar dy ff么n di i fi gael gweld', ond wnaeth e ddim!

"Ma fe'n actor rili taclus a mae'n fachgen lyfli a rili da, so fi'n hapus iawn drosto fe."