大象传媒

Goroesi canser y brostad: 'Dwi ymhlith y rhai lwcus...'

  • Cyhoeddwyd
Si么n BrynachFfynhonnell y llun, HUW JOHN

Mae canser y brostad wedi bod yn y newyddion gryn dipyn yn ddiweddar, gyda Stephen Fry a Bill Turnbull wedi cyhoeddi eu bod yn derbyn triniaeth.

Hwn yw'r canser sydd bellach yn fwyaf cyffredin ymhlith y boblogaeth a bydd un ym mhob pedwar o ddynion yn cael diagnosis yn ystod eu hoes.

Un a gafodd ddiagnosis yn ddiweddar yw Si么n Brynach, prif weithredwr yr elusen ddosbarthu grantiau, Hanfod Cymru. Yma mae'n adrodd hanes ei brofiad ef o'r clefyd.

Dwi ymhlith y rhai lwcus - dwi yma o hyd, ac yn 么l yn iach, er gwaethaf y diagnosis diweddar o ganser y brostad.

Mae'n si诺r mai rhyw flwyddyn n么l y cychwynnodd pethau - poen yn fy nhwll tin a phoen a thrafferth wrth basio d诺r - a hynny'n arwain wedyn at ymweliad 芒'r meddyg teulu.

Prostatitis oedd y diagnosis a chwrs o dabledi gwrthfiotig oedd yr ateb.

Mis Ebrill daeth y boen yn 么l ac fe es i at y meddyg teulu eto. Roedd y meddyg yn amlwg yn amau bod 'na rhywbeth o'i le achos fe ges i archwiliad mwy trylwyr bryd hynny.

Dyw archwiliad o'r brostad ddim yn hwyl - bys i fyny'r twll tin - ond weithiau mae rhaid!

Wnaeth pethau ddim gwella felly es i'n 么l at y meddyg teulu a chael fy nghyfeirio at adran iwroleg Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd.

Ym mis Medi y gwelais i'r iwrolegydd. Bys i fyny'r twll tin unwaith eto a phrawf PSA arall. Fel y dywedodd yr arbenigwr wrthyf bryd hynny, mae archwilio'r brostad yn wyddor amhenodol, ond roedd hi'n ddigon amheus - chwarae teg iddi - i'm hanfon am sgan MRI.

A hwnnw a ddadlennodd bethau go iawn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddodd y cyflwynydd Bill Turnbull yr wythnos hon fod ei ganser wedi lledaenu

Dwi'n dal i gofio eistedd yn y swyddfa wythnos ar 么l y sgan a'r ff么n yn canu ac un o nyrsys arbenigol yr adran iwroleg yn dweud: "Yn bendant 'ma 'na rhywbeth yn dy brostad di, felly 'dan ni angen i ti gael biopsi."

Dyw cael biopsi ddim yn lot o hwyl chwaith, ond dyw e ddim yn beth mawr.

Wythnos wedyn, ar ddiwedd eithaf mis Tachwedd, daeth canlyniad y biopsi, a'r fellten - "mae gen ti ganser y brostad".

Fy ymateb i oedd mynd i siarad 芒 ffrindiau i mi a oedd wedi bod trwy'r profiad o'm blaen neu ffrindiau eraill a oedd yn feddygon eu hunain.

Rhan o'r dilema yw gwybod sut i ymateb, gan fod canser y brostad yn rhywbeth sy'n medru datblygu a thyfu yn araf iawn.

Mae llawer o ddynion h欧n yn dewis gwneud dim y tu hwnt i gadw llygad ar y sefyllfa, ond gyda phedwar o blant rhwng wyth ac 17 mlwydd oed, roeddwn i'n awyddus i wneud rhywbeth am y peth.

Ar 2 Rhagfyr felly, pan euthum i gadw oed gyda'r llawfeddyg iwrolegol, roedd y sgwrs yn gymharol syml, os ingol.

Oherwydd lleoliad y tiwmor ger top fy mhrostad, doedd llawer o'r triniaethau ddim yn bosib, a'r unig opsiwn felly o wneud rhywbeth oedd llawdriniaeth i dynnu'r brostad.

Erbyn i fi adael swyddfa'r iwrolegydd felly roedd y penderfyniad wedi ei wneud a'r dyddiad wedi ei bennu - 10 Ionawr.

Cefais driniaeth lawfeddygol a ddefnyddiai'r robot Da Vinci - sef robot 芒 5 braich denau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Peiriant fel hyn - y robot Da Vinci - wnaeth weithio ar Si么n

Mae llawer o fanteision i'r sustem hon, nid lleiaf medru gadael yr ysbyty y diwrnod canlynol a medru arbed y nerfau o gwmpas y brostad adeg ei dynnu - gyda'r manteision o ran medru parhau i gael rhyw, a rheoli llif y d诺r ymhlith y rhai amlycaf

Bythefnos wedyn roeddwn wedi cael tynnu'r pwythau a'r cathetr a thair wythnos ar 么l hynny roeddwn yn 么l yn y gwaith.

Wythnos diwethaf - llai 'na saith wythnos wedi'r driniaeth - b没m yn gweld y llawfeddyg a chael y newyddion gwych - "roedd gen ti ganser y brostad - dyna'r neges i ti fynd adref gyda thi heddiw. Ymlaen 芒 thi 芒 gweddill dy fywyd".

Rwy'n 么l yn holliach ac yn medru gwneud pob peth y medrwn cynt (ac eithrio 'bungy jump' o bosib).

Ond maen nhw'n dweud mai ysgol ddrud yw ysgol brofiad felly rwy'n gobeithio mod i hefyd yn ddoethach.

Beth ddysgais i felly dros y misoedd diwethaf?

  • Peidio anwybyddu symptomau - os wyt ti mewn UNRHYW boen yn dy dwll tin neu dy bidlen dos at y meddyg a choda'r posibilrwydd o ganser y brostad;

  • Hola am archwiliad - OK, dyw hi ddim yn lot o hwyl cael bys i fyny'r twll tin, ond gwell dau funud o embaras nac arch;

  • Paid 芒 gohirio'r ymweliad at y meddyg - mae yna wastad rhywbeth gwell i'w wneud nac ymweld 芒'r feddygfa, ond fel y mae stori Bill Turnbull, druan, yr wythnos hon yn ei ddangos, gorau po gyntaf i ti gael diagnosis a thriniaeth os wyt ti i osgoi mwy o drafferth yn nes ymlaen;

  • Rwyt ti yn medru rheoli dy biso ar 么l triniaeth brostad, a dyw dy fywyd rhywiol di ddim ar ben - dyna'r sefyllfa i'r rhan fwyaf o ddynion sy'n cael triniaeth o'r math hwn;

  • Pwysigrwydd gwrando a dilyn cyngor y staff meddygol;

  • Mae yna fywyd gyda chanser, ond mae'n werth gwerthfawrogi a diolch am bob dydd - pa un ai oes gen ti ganser ai peidio. Mae hynny'n arbennig o wir am dy deulu a dy ffrindiau. Rydw i wedi bod yn ffodus iawn yn yr holl gefnogaeth yr ydw i wedi ei gael oddi fy ngwraig, y plant, y teulu estynedig a'm ffrindiau oll. Mae hiwmor yn bwysig iawn hefyd - rwy'n chwerthin bob tro wrth feddwl am ambell e-bost oddi wrth ffrind!;

  • Mae datblygiadau meddygol yn dod i'r amlwg yn gyson a phob achos yn wahanol felly os gei di ddiagnosis, trafoda'r holl bosibiliadau sydd ar gael i ti;

  • Er yr holl gwynion sy'n ymddangos yn y wasg, mae'r Gwasanaeth Iechyd yn WYCH - diolch byth amdano a'r holl staff sy'n gweithio o'i fewn. Mae'n haeddu i ni frwydro drosto, i'w gadw wedi ei ariannu o drethiant cyffredinol.

Hefyd gan y 大象传媒