'Newid delwedd' yn denu mwy o ferched i chwarae rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd mawr wedi bod mewn rygbi merched ar lawr gwlad am fod yna newid yn y ffordd mae chwaraeon i ferched yn cael ei weld, medd Undeb Rygbi Cymru.
Yn 么l yr undeb mae tua 10,000 o fenywod yn chwarae'r 驳锚尘 ar draws 95 o ysgolion, colegau neu brifysgolion lle mae swyddogion rygbi llawn amser.
Tair blynedd yn 么l 170 oedd y ffigwr, pan oedd yna 43 o hybiau gwreiddiol mewn ysgolion.
Mae merched sy'n chwarae rygbi yn dweud eu bod nawr yn cael mwy o barch o fewn y 驳锚尘.
Fe lansiodd URC "glystyrau" ar draws Cymru ddwy flynedd yn 么l, sy'n cael cefnogaeth hybiau a chlybiau lleol.
Fe aeth Heledd Roberts o Ysgol Dyffryn Conwy ati i sefydlu t卯m merched yn yr ardal bedair blynedd yn 么l.
Yn ddiweddar mae'r ferch 16 oed wedi cymryd rhan yn rownd derfynol dan-18 Ysgolion Cenedlaethol ym Merthyr.
"Ar y dechrau roedd pobl yn ein gweld ni fel bach o j么c, yn enwedig yn ein hysgol ni. Byddai'r bechgyn yn chwerthin ar ein pennau," meddai Heledd.
"Ond dros y blynyddoedd rydyn ni wedi cael ein cymryd fwy o ddifri ac wedi ennill cystadlaethau."
Sylw'r wasg
Fe ddechreuodd Efa Celyn, sy'n ail reng, chwarae rygbi ym mis Medi ac mae'n mwynhau'r gwaith t卯m a'r agwedd gymdeithasol.
Pan ddywedodd hi wrth ei thad ei bod hi eisiau rhoi tro arni, roedd o'n "gwrthwynebu ychydig" ond mae mwy o sylw yn y wasg yngl欧n 芒'r t卯m merched cenedlaethol wedi helpu i ennyn parch am y 驳锚尘.
Mae Eileen Murphy o Aberhonddu "wrth ei bodd" bod ei merch "yn ymwneud gyda math o chwaraeon ochr yn ochr 芒'r bechgyn".
Mae ei merch yn chwarae gyda th卯m Gwernyfed RFC's Red Kites.
Dyw hi ddim yn pryderu am yr ochr gorfforol meddai gan ychwanegu: "Mae'n datblygu ysbryd t卯m, maen nhw'n edrych ar 么l ei gilydd."
Yn 么l Katy Evans, sy'n cael ei chyflogi gan URC er mwyn cynnig cyfleoedd i ferched chwarae'r 驳锚尘, maen nhw wedi ceisio codi ymwybyddiaeth o rygbi merched yn unig drwy eu hymgyrchoedd.
"Oni bai eu bod nhw wedi eu magu gyda'u tadau yn mynd a nhw i'r clwb rygbi, fydden nhw ddim o anghenraid yn ymwneud a'r peth.
"Rydyn ni wedi gwneud lot o waith o gwmpas delwedd, y diwylliant, yr hyn mae merched yn gallu elwa ohono wrth chwarae rygbi," meddai.
Cynlluniau datblygu'r 驳锚尘
"Trwy adeiladau'r clystyrau yma mae byd newydd o rygbi wedi datblygu.
"Mae'n rhywbeth mae merched eisiau bod yn rhan ohono ac maen nhw'n gweld beth yw gwerth go iawn rygbi ond mewn awyrgylch mwy cyfforddus."
Dywedodd prif weithredwr yr undeb, Martyn Phillips bod proffil a diddordeb yn y 驳锚尘 wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf.
"Mae gyda ni gynlluniau i ddatblygu a chryfhau'r strwythurau hyn a'r cyfleoedd er mwyn cwrdd 芒'r galw cynyddol oddi wrth ferched sydd eisiau chwarae rygbi."
Bydd t卯m cenedlaethol merched Cymru yn chwarae ym mhencampwriaeth y chwe gwlad yn Stadiwm Principality yn erbyn yr Eidal ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017