Medal efydd i Menna Fitzpatrick yn PyeongChang
- Cyhoeddwyd
Mae'r sgïwraig Menna Fitzpatrick a'i thywysydd Jen Kehoe wedi ennill medal efydd yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn PyeongChang yn Ne Korea.
Fe syrthiodd yr athletwraig 19 oed ddydd Sadwrn tra'n cymryd rhan yn un o'r cystadleuaeth sgïo eraill.
Ond fore Sul, fe guron nhw ddwy chwaer o Awstria er mwyn sicrhau'r fedal efydd.
Dyma ydy'r tro cyntaf i Fitzpatrick gystadlu yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf.
"Mae hi wedi bod yn 24 awr emosiynol," meddai. "Dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi crio cymaint tra'n sgïo.
"Roedd ddoe'n ddiwrnod siomedig iawn i'r ddwy ohonon ni, ond fe ddaethon ni nôl.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Roedd ennill medal Paralympaidd yn freuddwyd i mi a dwi mor falch a chyffrous ar gyfer gweddill yr wythnos hefyd."
Dim ond 5% o olwg sydd gan Fitzpatrick, ac mae hi'n sgïo y tu ôl i'w harweinydd, Jen Kehoe sy'n gwisgo crys llachar oren i'w chynorthwyo lawr y llethr.
Yn y cyfamser, daeth sgïwr arall o Gymru, Chris Lloyd, yn 25ain mewn cystadleuaeth sgïo arall ar y llethrau fore Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2018