大象传媒

JJ Williams a JPR yn ymarfer gyda ch么r dementia

  • Cyhoeddwyd
JJ Williams a JPR WilliamsFfynhonnell y llun, HUW JOHN
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ymunodd JJ Williams a JPR Williams yn ymarfer olaf c么r Forget-me-not Chorus cyn G诺yl Cer i Greu

Mae c么r ar gyfer unigolion sydd 芒 dementia a'u teuluoedd wedi cael y cyfle i ganu gyda rhai o enwau mawr y byd rygbi.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Forget-me-not Chorus wedi bod yn ymarfer ar gyfer G诺yl Cer i Greu 2018, sef g诺yl sy'n rhoi cyfle i'r cyhoedd droi eu llaw at rywbeth newydd a chreadigol.

Yn yr ymarfer olaf daeth JJ Williams a JPR Williams i gyd-ganu gyda'r aelodau.

Roedd yn brofiad wnaeth adael argraff arnyn nhw, gyda JJ Williams yn dweud ei fod wedi teimlo'n "eithaf emosiynol".

Pwrpas Forget-me-not Chorus yw cynnig seibiant i ofalwyr, ac i'r bobl a'u teuluoedd gael hwyl.

'Therapi'

Mae'n gyfle hefyd iddyn nhw fynegi eu hunain mewn ffordd greadigol.

Er nad oes gan y ddau gyn-chwaraewyr rygbi salwch dementia, roedden nhw'n awyddus i ddangos eu cefnogaeth i'r prosiect.

Roedd y caneuon maen nhw wedi bod yn ymarfer yn rhai cyfarwydd i JJ Williams.

"Fi'n gwybod y caneuon i gyd. Caneuon rygbi ydyn nhw i gyd - Calon L芒n, Ar Hyd y Nos, Green Green Grass of Home. Roedd y rhain i'w clywed yn glir yn y stadiwm pan roedden ni'n chwarae.

"Mae hyn wedi bod yn eithaf emosiynol a dweud y gwir ac yn brofiad gwych i ni, John a finnau, i weld beth sy'n mynd ymlaen a'r gwaith da sy'n cael ei wneud."

Ffynhonnell y llun, HUW JOHN
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd JJ Williams y byddai yn argymell canu mewn c么r i unrhyw un

Ychwanegodd: "Alla i ond argymell hyn i bobl eraill. Mae canu yn amlwg yn therapi."

Dywedodd JPR Williams bod gan nifer o'r bobl atgofion o'r t卯m cenedlaethol yn y cyfnod pan oedd o'n chwarae.

"Yr unig beth oedd yn fy nharo am y c么r oedd mai'n debyg nad oedd aelodau'r c么r yn gallu cofio dim byd am ddoe ond eu bod yn gallu fy nghofio i'n chwarae - amser maith yn 么l.

"Mae'n amlwg i ni greu dipyn o argraff. Fel dywedodd un o'r aelodau wrtha i, doedden nhw bron ddim yn fy adnabod i oherwydd nad oedd gwaed ar fy wyneb!"

Uchafbwynt gyrfa

Yn ogystal 芒'r mawrion rygbi mae aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y 大象传媒 wedi bod yn ymarfer gyda'r c么r hefyd am gyfnod o wyth wythnos.

Fe fwynhaodd Jeff Davies, aelod gwreiddiol o gorws y 大象传媒, y profiad yn fawr.

"Pan wnes i wirfoddoli i fod yn 'gyfaill' gydag aelod o'r c么r Forget-me-not doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl - mae'r ymarferion wedi bod yn un o'r profiadau mwyaf pleserus, emosiynol a boddhaol dwi wedi profi drwy fy ngyrfa canu.

"Doedd fy 'nghyfaill' methu fy nghofio i o un wythnos i'r llall. Ond erbyn diwedd pob ymarfer roedd gennym berthynas wych ac roedd e'n cofio pob gair o'r caneuon roedden ni'n canu."

Mae'r profiad hefyd wedi bod yn werthfawr i aelodau Forget-me-not Chorus.

Dywedodd Kate Woolveridge, y cyfarwyddwr artistig: "Mae dod i'r c么r yn chwa o awyr iach i'r unigolion hynny.

"Syniad y Forget-me-not Chorus ydy bod gan bawb lais, bod pawb yn gallu canu ac mae Cer i Greu i gyd yn ymwneud 芒 chodi oddi ar ein pen 么l, mynd allan a gwneud rhywbeth creadigol a does dim byd yn fwy creadigol ac yn codi calon yn well na chyd-ganu."

Mae G诺yl Cer i Greu, sy'n bartneriaeth rhwng 大象传媒 Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac eraill yn cael ei chynnal rhwng 17-25 o Fawrth gyda nifer o ddosbarthiadau a gweithdai creadigol ar draws Cymru.