大象传媒

Cymeradwyo 15 cynllun addysg Gymraeg ar 么l ailgyflwyno

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn dosbarth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau addysg Gymraeg 15 o gynghorau lleol.

Roedd hi'n statudol bod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer addysg gyfrwng Cymraeg rhwng 2017 a 2020.

Ond pan gafodd y cynlluniau eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2016 cafodd y cwbl eu gwrthod.

Y rheswm, meddai'r llywodraeth, oedd nad oedden nhw'n mynd yn ddigon pell tuag at ei nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ailgyflwyno

Fe ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg y llynedd fod yna "ddiffyg uchelgais" yn y cynlluniau gwreiddiol.

Rhybuddiodd y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) hefyd na fyddai'r taged miliwn yn cael ei wireddu oni bai eu bod yn cael eu newid.

Cafodd y cynghorau orchymyn i ailgyflwyno'r dogfennau, ac yn sgil hynny mae 15 o'r 22 wedi cael s锚l bendith Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cynlluniau drafft eu gwrthod gan y llywodraeth

Y cynghorau mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo eu cynlluniau yw:

  • Sir Benfro

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Caerffili

  • Caerdydd

  • Ceredigion

  • Conwy

  • Sir Ddinbych

  • Sir y Fflint

  • Sir Gaerfyrddin

  • Gwynedd

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Wrecsam

  • Ynys M么n

Y saith sir sydd eto i gael eu cynlluniau wedi'u cymeradwyo yw Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy.

Dywedodd Eluned Morgan bod y gwelliannau "wedi sicrhau sylfaen fwy cadarn i'r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, sy'n adlewyrchu'n well yr uchelgais a nodwyd yn y ddogfen Cymraeg 2050 a'r gydnabyddiaeth bod addysg yn gyfrwng pwysig i newid."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y llywodraeth yn gweithio gyda'r saith awdurdod arall ar eu cynlluniau, meddai Eluned Morgan

Ychwanegodd ei bod yn ffyddiog y bydd modd gweithio gyda'r cynghorau eraill er mwyn dod i gytundeb yngl欧n 芒'r cynlluniau.

"Byddai nawr yn gofyn i bob awdurdod lleol lunio cynllun gweithredu yn seiliedig ar y targedau o fewn eu cynllun strategol, gan gynnwys y rhai hynny sy'n aros am gymeradwyaeth.

"Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth 芒 phawb i fonitro'r cynnydd a wneir ac i roi cymorth lle bo angen," meddai.

Croesawu'r cyhoeddiad mae RhAG, gan ddweud ei fod yn "cynnig eglurder" a'u bod yn falch bod y llywodraeth wedi gwrthod y cynlluniau cyntaf.

Dywedodd Wyn Williams, cadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg: "Pwyswn yn awr am fwy o fanylion gan y gweinidog yngl欧n 芒'r broses a'r amserlen i sicrhau bod yr holl siroedd yn cyflwyno cynlluniau o safon cyn gynted 芒 phosibl."