大象传媒

Graffiti Nats茂aidd wedi'i baentio ar adeiladau Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
GraffitiFfynhonnell y llun, @GregPycroft

Mae graffiti asgell dde eithafol wedi'i baentio ar adeiladau mewn ardal amlddiwylliannol o Gaerdydd.

Cafodd swasticas, y slogan "Nazi Zone" a phosteri bygythiol eu gweld gan rieni oedd yn mynd 芒'u plant i'r ysgol yn Grangetown fore Gwener.

Dywedodd Greg Pycroft, wnaeth drydar lluniau o'r graffiti, ei bod yn "olygfa drist, druenus".

Yn 么l Cyngor Caerdydd does dim croeso i eithafiaeth asgell dde yn y brifddinas, ac ychwanegon nhw eu bod yn cael gwared ar y graffiti.

Dywedon nhw hefyd eu bod yn gweithio gyda Heddlu De Cymru mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, @GregPycroft

Un sydd wedi mynegi ei bryder yw AS yr ardal, Stephen Doughty, a dywedodd ar Twitter bod y graffiti yn "ffiaidd" ac y byddai'n codi'r mater gyda'r heddlu a'r cyngor.

"Ni allwn oddef eithafiaeth asgell dde a does dim croeso iddo yng Nghaerdydd," meddai.

Dywedodd Heddlu De Cymru y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad llawn i'r digwyddiad a'u bod yn edrych ar gamer芒u cylch cyfyng yr ardal.

'Cwbl annerbyniol'

Dywedodd y prif arolygydd Joe Jones o Heddlu'r De: "Mae Caerdydd yn ddinas amlddiwylliannol fodern, bywiog a diogel ble mae pobl o wahanol grefyddau, credoau a diwylliannau yn byw ochr yn ochr mewn heddwch, ac maen nhw wedi gwneud hynny ers blynyddoedd maith.

"Mae'r fandaliaeth yma o adeiladau cyhoeddus gyda graffiti hiliol, ffiaidd yn gwbl annerbyniol a ni fydd yn cael ei oddef.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gweithwyr Cyngor Caerdydd wedi bod yn cael gwared ar y graffiti fore Gwener

Dywedodd bod y llu wedi dechrau ymchwilio a'u bod yn astudio camer芒u CCTV ac yn holi trigolion yr ardal.

Ychwanegodd bod y posteri wedi cael eu gyrru am brofion fforensig.

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn "condemnio pob graffiti" ac y byddan nhw'n tynnu'r posteri i lawr a phaentio dros y graffiti "cyn gynted 芒 phosib".