大象传媒

Plaid Cymru yn diarddel Neil McEvoy am 18 mis

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy

Mae'r AC Neil McEvoy wedi cael ei ddiarddel o Blaid Cymru am 18 mis yn dilyn ymchwiliad gan y blaid i'w ymddygiad.

Mewn datganiad dywedodd Plaid Cymru fod AC Canol De Cymru wedi torri nifer o reolau'r blaid.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ei gael yn euog o gamymddwyn yn ystod cyfnod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn 2017.

Mewn ymateb dywedodd Mr McEvoy fod y broses yn ffaeledig o'r cychwyn cynta ac y byddai'n apelio.

Wythnos i apelio

Fe gafodd yr AC ei ddiarddel o gr诺p y blaid yn y Cynulliad ym mis Ionawr gyda llefarydd ar y pryd yn son am "fethiant ymddiriedaeth na ellir ei adfer".

Nawr yn dilyn datganiad ddydd Llun mae o wedi ei ddiarddel o'r blaid yn llwyr am 18 mis.

Dywedodd Pwyllgor Safonau, Disgyblaeth ac Aelodaeth Plaid Cymru, fod gan yr AC hyd at saith diwrnod i apelio yn erbyn y dyfarniad.

Yn 么l datganiad gan y Pwyllgor Safonau roedd yna bedwar cwyn yn erbyn Mr McEvoy. Cafodd tri o'r rhain - oedd yn ymwneud 芒 thorri rheolau sefydlog y blaid - eu derbyn.

Roedd y cwynion yn ymwneud 芒 "gweithredoedd neu ddatganiadau" oedd yn niweidiol, neu 芒'r potensial i fod yn niweidiol i enw da Plaid Cymru, a hefyd ei fod wedi torri'r berthynas o ymddiriedaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neil McEvoy a Leanne Wood cyn i'r berthynas ddirywio

Roedd Cynhadledd Plaid Cymru yng Ngwanwyn 2018 yn cael ei chynnal ychydig ddyddiau ar 么l i dribiwnlys ddyfarnu fod sylw gan Mr McEvoy i un o swyddogion cyngor Caerdydd yn gyfystyr ag ymddygiad o fwlian.

Cafodd ei wahardd fel cynghorydd am fis.

Yn 么l copi o'r cwynion yn erbyn Mr McEvoy, fe wnaeth Cadeirydd Plaid Cymru Alun Ffred Jones, ofyn i'r AC i beidio 芒 chynnal rali yn ystod y gynhadledd wanwyn.

Cafodd y cais ei anwybyddu wrth i bobl ymgynnull i groesawu Mr McEvoy i neuadd y gynhadledd yng Nghasnewydd.

Yn 么l y g诺yn fe wnaeth Mr Jones ofyn i Mr McEovy beidio 芒 gwneud unrhyw sylw yngl欧n 芒'r tribiwnlys, ond yn 么l Mr Jones fe wnaeth Mr McEvoy wneud sawl cyfeiriad at hynny.

Dywed cwyn Mr Jones: "Fe wnaeth Mr McEvoy bopeth posib i fynd 芒'r sylw oddi ar neges y gynhadledd fel bod yr arweinydd ac eraill ar y droed 么l, yn ateb cwestiynau ar y mater yma yn hytrach na neges Plaid ar gyfer yr etholiadau oedd ar fin cael eu cynnal."

Ymateb Neil McEvoy

Mewn datganiad dywedodd Mr McEvoy ei fod e wedi ei wahardd yn dilyn cynhadledd wanwyn y llynedd "am beidio 芒 chaniat谩u i'r Cadeirydd newid fy araith i'r gynhadledd".

"Mae rhyddid barn yn rhan o hawliau dynol sylfaenol, hawliau mae aelodau plaid yn fodlon ymladd i'w hamddiffyn.

"Rwyf 芒 thystiolaeth i ddangos fod y Cadeirydd wedi dechrau'r ymchwiliad cyn i unrhyw gwynion ysgrifenedig gael eu derbyn a bod eraill yn ymwybodol o'r cwynion cyn fy mod i.

"Mae hyn yn gwneud cam mawr 芒'r broses."

Ychwanegodd fod y broses yn ffaeledig o'r cychwyn cynta.

"Dyw'r cwynion heb eu gwneud gan aelodau cyffredin y blaid, a byddai aelodau yn cael braw o glywed pam fy mod wedi cael fy niarddel," meddai.

Dywedodd y byddai yn apelio yn erbyn y penderfyniad gan ychwanegu: "Fe fydd fy nghyfarfod ymylol ar ddydd Sadwrn 24 Mawrth yng nghynhadledd y blaid yn mynd yn ei flaen ac mae yna groeso i bawb."