大象传媒

Bron 拢1m i gyfarwyddwyr cwmni athrawon llanw yn 'warthus'

  • Cyhoeddwyd
athroFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Plaid Cymru yn dweud ei bod hi'n warthus fod taliadau o bron 拢1m wedi eu gwneud i ddau gyfarwyddwr cwmni athrawon llanw.

Cafodd y taliadau eu gwneud i sefydlwyr y cwmni New Directions o Gaerdydd, dros gyfnod o ddwy flynedd.

Fe ddyblodd elw cyn treth y cwmni ar 么l iddyn nhw ennill cytundeb gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol - corff gafodd ei sefydlu i arbed arian i'r trethdalwr - yn 2015.

Roedd disgwyl i bob ysgol yng Nghymru eu defnyddio nhw i gyflenwi athrawon llanw.

Dywedodd y cwmni ei bod yn cynnig gwerth am arian, a'i bod ar lefel proffid isaf o unrhyw gwmni yn y sector.

Cynnydd mewn elw

Mae gan gwmni New Directions nifer o is-gwmn茂au, ond mae ei gyfrifon ar gyfer 2015/16 a 2016/17 yn dangos fod y rhan fwyaf o'r elw wedi ei wneud mewn addysg.

  • Yn 2016/17 fe wnaeth New Directions Education elw o 拢726,442, ac fel arfer fe fydden nhw yn cyflenwi tua hanner yr athrawon llanw yng Nghymru ar unrhyw ddiwrnod cyffredin;

  • Yn 2015/16 fe dderbyniodd y cyfarwyddwyr Jeff a Zoe Tune daliadau difidend o 拢430,000, ac yn 2016/17 fe dderbynion nhw 拢464,000, cyfanswm o 拢894,000;

  • Yn 2016/17 fe dderbynion nhw dal o 拢22,000 yr un.

Doedd dim rheidrwydd ar ysgolion i ddefnyddio'r cwmni, ond mae dogfen gan Lywodraeth Cymru ar y pryd yn dweud fod awdurdodau lleol yn disgwyl ysgolion i'w defnyddio.

Ffynhonnell y llun, New Directions Holdings

Yn 2014/15 fe wnaeth New Directions Education elw o 拢292,740. Yn 2015/16 ar 么l i'r cytundeb caffael newydd ddechrau fe wnaethon nhw elw o 拢583,321.

Mae yna bryderon wedi bod yn ddiweddar am y t芒l a'r amodau gwaith sydd wedi cael ei roi i athrawon llanw, gyda rhai ymgyrchwyr yn honni fod y defnydd o asiantaethau yn arwain at lai o gyflog.

Ond mae'r cwmni, a wnaeth ennill gwobr cyflenwyr y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru yn 2015 a 2016, yn mynnu eu bod nhw ond yn gwneud elw ar 么l treth o 4% ar 么l talu eu costau a thalu'r athrawon.

Yn 么l y cwmni maen nhw yn fwy effeithiol wrth gyflenwi athrawon llenwi nag awdurdodau lleol.

'Busnes ydyn ni'

Dywedodd Gary Williams, cyfarwyddwr datblygu busnes y cwmni: "Busnes ydyn ni, ac rydyn ni eisiau gwneud arian, ond mae llawer o'r arian yna yn cael ei ail fuddsoddi. Mae'n canolfan hyfforddi yn brawf o hynny.

"Mae'r cytundeb yma wedi creu arbedion mawr i Gymru dros y blynyddoedd, a does dim modd cynnig gwell gwerth am arian na mae'r ysgolion yn ei dderbyn yn barod.

"Os fyddai Plaid Cymru yn siarad gyda'r ysgolion dwi'n si诺r y bydden nhw yn cael neges wahanol iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Does dim yn atal cyrff llywodraethol ysgolion neu awdurdodau lleol rhag comisiynu athrawon llanw drwy gytundeb arall, tebyg i gytundeb uniongyrchol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l yr AC Llyr Gruffydd mae'r taliadau o 拢1m i ddau gyfarwyddwr y cwmni yn "warthus"

Yn 么l Ll欧r Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar addysg: "Mewn amser pan mae prifathrawon yn dweud fod ysgolion ar eu gliniau oherwydd pwysau ariannol, mae'n warthus fod cwmni preifat wedi elwa mor fawr o gytundebau caffael y llywodraeth.

"Mae ysgolion yn colli allan, mae'r athrawon llanw yn colli allan, a'r unig rai sy'n elwa yw'r ddau gyfarwyddwr yn y cwmni.

"Mae Plaid Cymru yn cefnogi cymryd agwedd wahanol, gan gynnwys sefydlu asiantaeth athrawon cyflenwi na fyddai'n cael ei redeg am elw."