大象传媒

Atgyfodi cynlluniau i gwtogi nifer cynghorau Cymru

  • Cyhoeddwyd
map o Gymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi atgyfodi cynlluniau a allai weld nifer y cynghorau yng Nghymru yn cael eu torri i gyn lleied 芒 deg awdurdod.

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol, Alun Davies AC: "Mae cynghorau wedi ei gwneud hi'n glir bod eu gwasanaethau wedi bod dan gymaint o bwysau nes eu bod bron a methu".

Dywedodd ei fod yn derbyn na all pethau barhau fel y maent, gan ddweud "fod yn rhaid i'r cam nesaf newid y g锚m".

Mae uno gwirfoddol neu uno fesul cam ymhlith yr opsiynau sy'n cael eu hystyried.

Disgrifiad,

Mae Alun Davies AC am ddechrau'r drafodaeth i ail-strwythuro cynghorau Cymru

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Mr Davies: "Rwy'n credu mewn gwasanaethau cyhoeddus a'r r么l sylfaenol y mae llywodraeth leol yn ei chwarae mewn cymunedau ledled Cymru.

"Mae Cymru angen awdurdodau lleol cryf, effeithiol, a all barhau i adeiladu strwythurau democrataidd lleol sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Nid wyf yn credu y gall ein hawdurdodau lleol, fel maent ar hyn o bryd, chwarae'r r么l hon yn llwyr, ac nid wyf ar fy mhen fy hun yn hyn o beth.

"Mae cynghorau wedi ei gwneud hi'n glir bod eu gwasanaethau wedi bod dan gymaint o bwysau nes eu bod bron a methu ac mae consensws cyffredinol na all pethau barhau fel y maent gyda chydnabyddiaeth gyffredinol na fydd mwy o arian ar gael i ddatrys y broblem."

Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig y 大象传媒, Vaughan Roderick.

Nid hwn yw'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru ystyried lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru.

Ond mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies yn gobeithio y bydd addewid o bwerau ychwanegol i'r cynghorau newydd yn ddigon i fynd a'r maen i'r mur y tro hwn.

Mae'r ddogfen yn awgrymu y bydda 'na dair sir newydd yn y gogledd ac y byddai hen siroedd Dyfed a Gorllewin Morgannwg yn ail ymddangos yn y Gorllewin.

Fe fyddai na' dair sir yn y de ddwyrain gyda dim ond Powys yn goroesi o'r cynghorau presennol.