Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Artistiaid sy'n perfformio'n Tafwyl yn cael eu cyhoeddi
Mae'r artistiaid fydd yn perfformio yn Tafwyl wedi eu cyhoeddi a hynny wrth i'r w欧l ddychwelyd i Gastell Caerdydd.
Y llynedd cafodd ei chynnal yng nghaeau Llandaf am nad oedd tir y castell ar gael yn sgil trefniadau Cynghrair y Pencampwyr.
Ymhlith y rhai fydd yn canu yn ystod y penwythnos rhwng Mehefin 30 a Gorffennaf 1 fydd Band Pres Llareggub, Alys Williams, Meic Stevens, Bryn Fon, Candelas, Fleur de Lys a Mabon.
Yn 么l y trefnwyr daeth dros 38,000 i'r 诺yl yn 2017, gyda dros 20,000 yn ymweld ddydd Sadwrn oedd yn record newydd.
Y tro yma mae Menter Caerdydd - sy'n trefnu'r digwyddiad - yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.
Rhestr lawn o'r artistiaid fydd yn perfformio yn Tafwyl 2018:
- Danielle Lewis,
- Palenco,
- Patrobas,
- Cadno,
- Lleuwen,
- Candelas,
- Y Cledrau,
- Chroma,
- Band Press Llareggub,
- Alun Gaffey,
- Adwaith,
- Omaloma,
- Nogoodboyo,
- Aled Rheon,
- Mabon,
- Vri,
- Lleden,
- Eden,
- Mabli Tudur,
- Tecwyn Ifan,
- Gai Toms,
- Bryn Fon,
- Daniel Lloyd a Mr Pinc,
- Gareth Bonnello,
- Alys Williams,
- Glain Rhys,
- Meic Stevens,
- Welsh Whisperer,
- Hywel Pitts,
- Fleur De Lys,
- Ffracas,
- Bethany Celyn,
- Eady Crawford,
- Serol Serol,
- Sybs,
- Hyll,
- Wigwam,
- Los Blancos,
- Gareth Potter,
- Elan Evans,
- Garmon,
- Ian Cotrell,
- Dj Dilys.
Bydd yr Yurt T yn ei 么l - sy'n lwyfan i berfformwyr ifanc- ac ymhlith y rhai fydd yn diddanu'r gynulleidfa fydd SerolSerol, Wigwam a Los Blancos a bandiau newydd o ysgolion Caerdydd.
Yn ogystal bydd cyfle i'r rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth werin i wneud hynny brynhawn dydd Sul yn Y Sgubor, sy'n bartneriaeth rhwng Trac a Chwpwrdd Nansi a bydd rhai bandiau gwerin hefyd yn perfformio ar y prif lwyfan.
Ond bydd digwyddiadau celfyddydol, chwaraeon, comedi ac ardal i blant hefyd yn Tafwyl gyda'r 诺yl ffrinj sy'n digwydd ar draws y brifddinas yn cael ei chynnal eto rhwng Mehefin 23 a Gorffennaf 1.
Digwyddiadau celf, rhai llenyddol, cerddoriaeth a theithiau cerdded yw rhai o'r pethau sy'n digwydd yn ystod y naw diwrnod.
Dywedodd aelodau Band Pres Llareggub sy'n perfformio eleni: "Mae'n gymaint o bleser gallu dychwelyd i chwarae Tafwyl eto eleni!
"Mae'r band i gyd bob tro wrth ei boddau yn chwarae'r brif ddinas ac mae'r digwyddiad blynyddol yma bob tro yn arbennig!
"'Da ni efo atgofion melys o Tafwyl 2016! Mae cael gymaint o fandiau mawr y sin Gymraeg i gyd yn chwarae mewn un lle yn barti a hanner."